Burnham v Black
Mae'n ddiwrnod digon tawel heddiw, cyfle felly i bori trwy agenda cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Ar 么l gadael cynhadledd Llafur Cymru i Betsan dw i'n rhyw dybio mai fi fydd yn heglu hi lan yr A470 i Landudno'r wythnos hon.
Pa ddanteithion sy'n fy nisgwyl felly? Mae'n rhaid cyfaddef nad yw'r gweithdy ar ymgyrchu trwy ddefnyddio ffons symudol yn apelio rhyw lawer! Dw i ddim yn rhagweld llawer o wrthdaro yn y ddadl ar lywodraeth leol chwaith lle mae'r cynnig yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol a threth incwm lleol; dau bolisi sydd, mae'n ymddangos, yn bynciau gorfodol yng nghynadleddau鈥檙 Rhyddfrydwyr.
Y sesiwn orau heb os fydd y ddadl ar sut mae'r blaid yn dewis ei harweinydd. Ar hyn o bryd mae angen enwebiad gan ddau aelod cynulliad er mwyn cael sefyll. Os ydy'r gynhadledd yn cymeradwyo鈥檙 cynnig ger ei bron fe fydd enwebiad gan un aelod cynulliad neu seneddol a thrideg o aelodau cyffredin yn ddigon. Fe fydd y drws yn agored i Elinor Burnham a Peter Black felly. Brysied y dydd!

Golygydd Materion Cymreig y 麻豆社 yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.