Adarwr sydd yn gyn swyddog gyda'r RSPB cyn troi yn gyflwynydd teledu ar fywyd gwyllt
"Yr hyn dw i wastad yn dweud am fy swydd, yw fy mod yn cael fy nhalu i wneud fy hobi"
Cewch weld Iolo yn Nolgellau dydd Sul yma.
Ganwyd Iolo Williams yn Llanfair ym Muallt ym 1962, a threuliodd y tair mlynedd cyntaf o'i fywyd ym mhentref Beulah. Pan gafodd ei dad ei benodi yn brifathro Ysgol gynradd Eglwys Wen, symudodd y teulu i Sir Benfro. Dychwelodd y teulu i Bowys pan oedd Iolo yn bum mlwydd oed, a bu'n byw yn Llanwddyn ger Llyn Efyrnwy. Mynychodd ysgol gynradd y pentref cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Llanfyllin, lle safodd dwy arholiad Lefel A, mewn Bioleg a Ffrangeg (a gwnaeth yn wael iawn yn y ddwy, meddai.)
Bu bron i Iolo ymuno â'r fyddin pan oedd yn ei arddegau, ond aeth i astudio Ecoleg yn y coleg yn Llundain. Ar ôl graddio, cafodd swydd yn gweithio ar fferm am wyth mis, yna treuliodd gyfnod yn gweithio yn y diwydiant coed.
Ym 1985 cafodd Iolo swydd gyda'r RSPB a threuliodd y 14 mlynedd nesaf yn gweithio i'r mudiad. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau - ar y teledu, y radio a'r papurau newydd yn y cyfnod yma, a gwneud enw iddo'i hun fel arbenigwr blaenllaw ar adar yng Nghymru.
Daeth ei brif gyfle i wneud enw iddo'i hun ar y teledu ym 1997, pan aeth Âé¶¹Éç Cymru ato a'i wahodd i weithio ar gyfres newydd o'r enw Visions of Snowdonia oedd yn dilyn bywydau chwe o bobol yn byw ac yn gweithio ar lethrau'r Wyddfa. Cafodd gynnig ail gyfers, y tro yma 'Birdman' ac mae'r enw Dyn yr Adar wedi aros gyda Iolo ers hynny.
Ym 1999, penderfynodd Iolo adael yr RSPB a dilyn gyrfa llawn amser yn y cyfryngau. Ers hynny, bu'n gweithio ar sawl cyfres arall gyda Âé¶¹Éç Cymru, gan gynnwys Wild Wales, Wild Winter a Iolo's Special Reserves a Natur Wyllt. Mae Iolo hefyd wedi cyflwyno rhaglenni gan gwmni telesgop ar S4C, gan gynnwys Gwyllt ar Grwydr.Ym mis Gorffennaf 2003, cerddodd y cyflwynydd 270 milltir fel rhan o Apêl S4C i godi arian ar gyfer dau hosbis i blant TÅ· Hafan a ThÅ· Gobaith, o Ogledd Cymru i'r De mewn un ar ddeg niwrnod.
Yn ystod 2003 - 2004 mae'r cyflwynydd yn gweithio ar gyfres arall ar gyfer Âé¶¹Éç Cymru yn edrych ar hanes naturiol ein gwlad.
Cyhoeddodd lyfr hefyd ar gyfer Nadolig 2003 o'r enw 'Blwyddyn Iolo'. Ewch i ddarllen adolygiad ohono , a sgwrs gyda Iolo Williams ar safle Llyfrau Cymru'r Byd.
Mae Iolo Williams yn byw ym Mhowys o hyd ger Y Drenewydd, sydd ddim ymhell o'r lle cafodd ei fagu. Mae ganddo wraig a dau o feibion.