Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
Rhai o griw ar daith gerdded yr urdd. Taith gerdded yr Urdd
Taith gerdded i blant yr Urdd ar hyd prom Aberystwyth.

Ar Fehefin 15, 2007, yn ôl yr arfer, cynhaliwyd taith gerdded yr Urdd ar y prom yn Aberystwyth. Dyma daith ar gyfer plant ysgolion cynradd ac uwchradd Ceredigion. Er bod y daith wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd bellach, taith 2007 oedd y fwyaf i'w chynnal eto efo 1,500 o blant yn cymryd rhan. Mor braf oedd gweld moroedd o goch, gwyn a gwyrdd (sef lliwiau'r Urdd) yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ar bromenâd Aberystwyth.

Llynedd am y tro cyntaf fe ddarparodd pedair merch o Ysgol Gyfun Penweddig bantomeim yn y bandstand ar gyfer y cerddwyr o dan arweiniad Cwmni Brolio. Cwmni Brolio yw cwmni drama Ysgol Gyfun Penweddig. Dechreuwyd y cwmni yma ychydig o flynyddoedd yn ôl gan y disgyblion, ac mae'n cael ei redeg gan y plant.

Y pedair merch hynny oedd Carys Mair Davies, Elin Haf Huxtable, Gwen Simms-Williams a Sioned Mai Thomas, ac fe roesant sioe gyfoes o stori Cinderella i'r gwylwyr. Ond eleni, fe gyflwynodd dosbarth cyfan o ddisgyblion blwyddyn naw o Ysgol Penweddig sioe gyfoes o'r Dewin o 'Oz' yn y bandstand. Cafodd y perfformwyr sbort a sbri yn eu gwisgoedd amryliw ar y llwyfan. Roeddent hyd yn oed wedi cyfansoddi cân arbennig i gyd-fynd â thema'r daith gerdded a'r pantomeim. Gwelir geiriau'r gân isod. Canwyd y gân i gerddoriaeth "Follow the yellow brick road" o'r ffilm "The Wizard of Oz":

"Ni'n dilyn y llwybr bach aur,
Ni'n dilyn y llwybr bach aur,
Ni'n dilyn, dilyn, dilyn, dilyn, dilyn y llwybr bach aur
I ddarganfod y daith sy'n annog yr iaith.
I gerdded gydag Anwen Eleri.
Beth sy'n odli 'da Eleri??!
Seleri!!!!
Ni'n dilyn y llwybr bach aur!!"

Bues i'n ddigon lwcus i gyfweld un o'r actorion a oedd yn perfformio ar y bandstand, ef oedd y dewin ei hun yn y sioe! Tomos Glyn Davies o flwyddyn naw oedd yn chwarae rhan y dewin.

Sut brofiad oedd cael bod yn y sioe ?
'Roedd e'n brofiad da achos nid oeddwn wedi actio o flaen cymaint o bobl o'r blaen, ac 'roedd e'n sbort cynrychioli Cwmni Brolio, sef adran ddrama Penweddig, dros Aberystwyth.

Faint o ymarfer oedd yn rhaid i chi ei wneud?
Dechreuon ni ymarfer ar ddechrau wythnos y daith gan ymarfer bob amser cinio ac ar ôl ysgol.

Pwy oedd yn ysgrifennu'r sgript?
Ni, y disgyblion!!! Gawsom ni help gan ein athrawes drama hefyd, sef Miss Alexis Barnard.

Beth oedd dy olygfa gorau?
Fy ngolygfa i!!!

Beth oedd y peth gwaethaf am y diwrnod?
Y tywydd - 'roedd hi'n gymylog iawn a diflas ac 'roedd cawodydd o law hefyd. Ond diolch byth rown ni'n actio o dan do.

A fyset ti'n gwneud y pantomeim eto?
Heb os nac onibai!!

Edrychaf ymlaen yn eiddgar at gael bod yn dyst i banto taith gerdded yr Urdd flwyddyn nesaf! Eira Wen, y Blodyn a'r Bwystfil - pwy a ŵyr?!

Ar ôl i'r cerddwyr gwblhau'r daith ar hyd y promenâd a chael cyfle i weld y pantomeim, trodd rai ysgolion tua thre ond fe aeth nifer o ddisgyblion ymlaen i Glwb Rygbi Aberystwyth oherwydd yno, fe dorrodd disgyblion a fu ar y daith gerdded Record Byd newydd drwy ffurfio'r triongl mwyaf allan o fodau dynol!! 'Roedd dynion tân wedi ymgasglu i'r Clwb Rygbi er mwyn bod yn dyst i hyn.

JamboriEr mwyn gorffen y diwrnod gydag ychydig o steil fe gafwyd jambori!! 'Roedd modd clywed cân "Mr Urdd" yn risial clir o'r Ganolfan Hamdden, tua milltir i ffwrdd!!

Er y gallai'r tywydd fod wedi bod ychydig yn well, medraf ddweud yn hyderus fod pawb a fuodd yn cymryd rhan yn y daith wedi cael modd i fyw y diwrnod hwnnw. Ac ar ôl siarad ag ychydig o ddisgyblion wedi'r daith, eu neges hwy i'r Urdd oedd :

"Dewch mlân taith gerdded yr Urdd 2008!"

Gan Carys Mair Davies

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng Âé¶¹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.

  • Taith gerdded yr Urdd - 2006

  • Cyfrannwch

    Tomos Cledwyn o Llanclustog
    Sioe ardderchog. Clod am y cynhyrchiad!
    Thu Mar 13 20:34:29 2008


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Âé¶¹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý