Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bedlam

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Stryd Fawr Llambed Cyflwyniad i dre Llambed
Golwg ar Lambed trwy lygaid un o bobl ifanc y dref, Stephanie James.
Beth sydd yn bwysig am ardal Llambed? Beth sydd i'w wneud yn y dref hon? Ydy Llambed yn dref sydd yn eich denu chi?

Hanes Llambed
Mae llawer o hanes i'r dref hon ac mae llawer o hen adeiladau yn yr ardal sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.

Ysgol Gynradd Llambed
Enw gwreiddiol yr ysgol hon oedd Peterwell. Cafodd yr ysgol ei hadeiladu ym Mehefin 1880. Yn yr amser hynny roedd yn ysgol i ferched yn unig, ac roedd tua 297 o ddisgyblion yn mynd yno. Heddiw mae dros 300 o blant yn mynychu'r ysgol a bechgyn a merched yn gymysg.

Ysgol Gyfun LlambedDyma Ysgol Gyfun Llambed. Cafodd ei hadeiladu yn Hydref 1949. Roedd tua 531 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol erbyn 1959. Erbyn heddiw, mae tua 700 o ddisgyblion yma.

Cafodd Coleg Prifysgol Llambed ei adeiladu yn y flwyddyn 1803, ac mae llawer o fyfyrwyr yno. Gellir astudio gwahanol bynciau yn amrywio o Athroniaeth i Gymraeg a Ffilm a Theledu.

Beth sy'n digwydd yn Llambed?
Mae yna lawer o ddigwyddiadau yn digwydd gydol y flwyddyn yn y dref hon. Bob blwyddyn cynhelir Carnifal ac mae sioe Llambed yn un mawr a phoblogaidd ac mae llawer mwy o wahanol bethau yn digwydd yno.

Gŵyl Fwyd LlambedPan mae'r Carnifal yn cael ei gynnal yn y dref, mae mwyafrif y siopau yn cael eu addurno ac yn gwneud ´Ú´Ú±ôô³Ù²õ, mae hyn yn digwydd ym mis Mai. Mae yna ŵyl fwyd flynyddol ar safle'r coleg, lle mae llawer o bobl yn dod o bell ac agos i flasu gwahanol fwydydd.

Beth sydd yn Llambed?
Mae llawer o wahanol bethau yn Llambed - megis siopau, caffis, coleg a thafarnau.

Mae yna bopty yng nghanol y dref a siopau yn gwerthu gemwaith.

Barn disgyblion ysgol Llambed am y dref

Gofynnwyd i rai o ddisgyblion yr ysgol beth maent yn ei feddwl o dref Llambed a dyma eu hatebion.

"Rwy'n meddwl bod angen mwy o bethau i wneud yn Llambed. Mae angen clybiau ieuenctid i'n hoedran ni gan nad oes dim byd i'w wneud yn ein amser rhydd."
Bobby Wilson, disgybl o Ysgol Gyfun Llambed

"Nid oes llawer o siopau dillad yn Llambed. Nid ydych yn gallu gwneud llawer o siopa yma, mae'n rhaid mynd i Gaerfyrddin er mwyn gwneud hyn."
Erthygl gan Ffion Evans

Dyma beth mae rhai o ddisgyblion yr ysgol yn meddwl o Lambed. Beth ydych chi'n feddwl? Oes eisiau mwy o bethau i'w wneud yn Llambed, oes eisiau mwy o siopau a gweithgareddau? Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn? Mynegwch eich barn am Lambed isod.

Erthygl gan Stephanie James, Ysgol Llambed


Cyfrannwch

Lisa, Llambed
Helo!!! Oes, mae eisiau mwy o bethau i'w wneud yn Llambed i bobl yn eu harddegau. Mae'r plant yn troi i ysmygu a.y.b, gan mae o mor ddiflas yma! Felly mae eisiau i rhywbeth cael ei wneud yn fuan yn Llambed.
Sun Jan 28 11:00:18 2007


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Âé¶¹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Digwyddiadau
Radio Cymru
Trefi
Adolygiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý