Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bedlam

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Canol tref Llambed Y dref i chi
Does unman yn debyg i adre' - a does unman yn debyg i Lanbedr Pont Steffan yn ôl Anwen James. Mae hi'n credu y dylai pawb ymweld â'r dref farchnad fach hon ...
Ydych chi wedi ymweld â Llambed yn ddiweddar?

Mae'n dref gymwynasgar a chartrefol tua 25 milltir o Gaerfyrddin. Mae yma Brifysgol eisioes wedi ei sefydlu'n amlwg a Chanolfan Hamdden sy'n cynnig cyfleusterau da i bobl yr ardal. Mae gan y dref newydd ddelwedd ffres, sy'n denu mwy o bobl i ymweld â hi.

Rydym yn lwcus bod Llambed yn llawn siopau arbenigol ac annibynnol sy'n cynnig dewis eang o nwyddau. Yma gallwch fwynhau'r profiad o siopa'n hamddenol mewn amgylchedd ddymunol. Gydag amryw o siopau dillad, tai bwyta a chyfleusterau at anghenion pawb, nid oes dwywaith bod Llambed yn croesawu pawb.

Mae yna siop newydd wedi agor yn ddiweddar sy'n canolbwyntio ar ffasiwn ieuenctid ac mae'n ymuno â siopau eraill yn y stryd fawr sy'n gwerthu dillad, gemau ac addurniadau gwahanol. Mwynhewch yr awyrgylch hudol!

Mae dewis eang o dai bwyta yn Llambed, a nifer ohonynt wedi ennilll gwobrau, gan gynnwys Caffi Conti sydd wedi ennill nifer o dystysgrifau am eu hufen iâ cartref blasus. Mae safle i fwyty Chineaidd newydd ar y gweill a thŷ bwyta Indiaidd lawr y stryd, felly does dim esgus!! Yn ychwanegol mae'r caffis lleol yn darparu bwyd Cymreig a rhoddir pwyslais ar ddefnyddio cynnyrch lleol.

Yn fy marn i, er mai tref farchnad fechan yw Llambed mae'n dref llawn atyniadau. Ceir nifer o lefydd i aros sy'n amrywio o lety gwely a brecwast i westy moethus. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod yna naws gymunedol gref yn perthyn i'n tref.

Dewch i Lambed!

Erthygl gan Anwen James.


Cyfrannwch

Caryl Griffiths o Llangybi
Mae Llanbed yn cwl!!! Mae fy Anti gyda siop ddillad yno Duet yw enw y siop. Y lle gorau yw Bargain Box mae llawer o fargeinion fano!

Ffion o Lambed
Da iawn Anni fach ..!! x


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Âé¶¹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Digwyddiadau
Radio Cymru
Trefi
Adolygiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý