Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Machynlleth

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Machynlleth
Dysgu coginio ar y Bws Coginio Byd y Bwyd
Yr oedd dau fws yn Ysgol Gynradd Machynlleth ddydd Mawrth 18 Medi 2007! Roedd y bws coginio yn yr ysgol er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion, athrawon a'r gymuned gael blas ar goginio bwyd o safon.

Sian Walters

Mae Hannah Ridgeway Rheolwr Cyfathrebu Byd y Bwyd yn rhoi rhagor o gefndir y prosiect.

"Mae'r lori gymalog anferth hon, sy'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, yn troi'n gegin ac yn ystafell ddosbarth bwrpasol a thrawiadol lle bydd athrawon bwyd cymwys yn rhoi cyfle i ddisgyblion, athrawon a'r gymuned gael blas ar goginio bwyd o safon.

Caiff y Bws Coginio hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i redeg gan Ymgyrch Byd y Bwyd, sef y prif fudiad sy'n hybu cyfleoedd i addysgu coginio mewn ysgolion ar draws y DU.

Beth mae modd ei wneud ar y bws coginio?
Bydd y disgyblion yn mynd ar y Bws i gael gwersi dan ofal Richard Shaw, yr Athro Ymgynghorol. Mae ei raglen o weithgareddau coginio wedi'u cynllunio i gynorthwyo ysgolion ac wedi'i theilwra i gyd-fynd ag oedran y rheiny sy'n cymryd rhan. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer yr athrawon a'r gymuned ehangach hefyd, fel y gallant barhau i helpu pobl ifanc i goginio'n hyderus ymhell ar ôl i'r Bws adael safle'r ysgol.

Mae Bysiau Coginio Byd y Bwyd yn teithio o gwmpas y DU ac yn rhoi gwersi i blant o bob oed ar sut i baratoi, coginio a mwynhau bwyd go iawn. Ymhlith rhai o'r seigiau nodweddiadol a gaiff eu paratoi ar y Bws y mae salad cwscws llysiau rhost, samosas llysiau, salad Caerffili, tatws trwy'u crwyn â chaws, cebabs ffrwythau a smwddis ffrwythau.

Yn ogystal, cynhelir sesiynau cymunedol ar y Bws er mwyn rhoi'r un addysg i rieni a gofalwyr. Bydd y disgyblion yn astudio maetheg, diogelwch a hylendid bwyd, a sgiliau paratoi bwyd. Gwaith coginio ymarferol sy'n ganolog i bob gwers.

  • Mwy o Fachynlleth


  • Lluniau
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Trefi


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý