Arloeswr pop, cyflwynydd teledu, ac un o sefydlwyr cwmni Sain
Proffeil
Ganwyd Huw Jones ym Manceinion ym 1948. Symudodd y teulu i Gaerdydd lle addysgwyd Huw yn Ysgol Bryntaf ac Ysgol Uwchradd Y Bechgyn. Ar ôl gadael ysgol astudiodd Ffrangeg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.
Dysgodd y grefft o ganu yn gyhoeddus yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac wedyn yn y clybiau canu gwerin yng Nghaerdydd, ble perfformiodd yn aml gyda'i ffrindiau Heather Jones, Geraint Jarman, Huw Jenkins ac Eluned Evans.
Ym 1968 arwyddodd i Welsh Teldisc a rhyddhau'r EP Cymru'r Canu Pop. Blwyddyn yn ddiweddarach dilynwyd hynny gan y sengl Y Ffoadur, ond roedd Huw Jones yn anhapus gyda chyfleusterau recordio cyntefig Welsh Teldisc, ac felly, ym 1969 ffurfiwyd Sain gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards.
Gyda chymorth Meic Stevens recordiodd ¶Ùŵ°ù (1969), sengl gyntaf Sain, yn Stiwdio Central Sound yn Llundain. Hon oedd y record Gymraeg cyntaf i gael ei recordio ar beiriant aml drac a'i chymysgu mewn stereo.
Recordiodd sengl arall, Paid Digalonni, ym 1970 gyda Meic Stevens unwaith eto wrth y llyw yn Stiwdio Central Sound. Roedd hon yn gân o deyrnged i Dafydd Iwan a charcharwyd ar ddechrau'r flwyddyn yn sgil protest Cymdeithas Yr Iaith.
Ar ddiwedd y flwyddyn rhyddhawyd yr EP Gwylliaid Cochion Mawddwy. Mae'n cynnwys y gân Mathonwy a sgrifennwyd ar y cyd gyda Dewi "Pws" Morris. Dyma'r tro olaf i Meic Stevens gynhyrchu un o recordiau Huw Jones.
Mae Daw Dydd (Sain, 1971) yn cynnwys y gân hyfryd Ble'r Aeth Yr Haul, deuawd gyda Heather Jones a sgrifennwyd gan Dewi. Recordiwyd yn Stiwdio Rockfield gyda Cenfyn Ifans o'r Dyniadon yn cynhyrchu.
Erbyn hyn roedd Huw Jones yn cyflwyno rhaglen bop wythnosol Âé¶¹Éç Cymru, Disc A Dawn, ac roedd Dwi Isio Bod Yn Sais (Sain, 1973) - ei record olaf - o bosib yr un mwyaf poblogaidd.
Roedd Adlais (Sain, 1976) yn gasgliad o oreuon, gyda rhai o'r traciau wedi eu haddasu ar gyfer stereo. Roedd un trac yn arbennig wedi cael ei recordio o'r newydd, sef Mathonwy oddi ar * Gwylliaid Cochion Mawddwy. Dewiswyd y fersiwn yma ar gyfer *Welsh Rarebeat, ar draul y fersiwn gwreiddiol, ble mae Meic Stevens yn chwarae gitâr drydanol, drymiau a'r congas.
Gari Melville
Âé¶¹Éç Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.
