Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Abertawe
Heather Williams Llysgenad Ifanc y Llewod
Yn 2006 llwyddodd Heather Williams o'r Alltwen ger Bontardawe i dderbyn Gwobr Llysgenad Ifanc y Llewod. Yma mae'n olrhain sut gafodd ei dewis.

"Yn 2005 daeth Mr Colin Evans Pennaeth Chweched Ysgol Gyfun Ystalyfera lan atai a gofyn os oeddwn i'n gwybod rhywbeth am Glwb y Llewod. Roeddwn i'n gwybod eu bod nhw'n helpu pobl ar draws y byd, ac fe ddes i hefyd i wybod mai y Llewod oedd y cwmni cyntaf i fynd mas i helpu pobl gyda'r Tsunami nôl yn 2004.

"Dywedodd Mr Evans ei fod am fy enwebu ar gyfer y wobr flynyddol - Llysgenad ifanc Clwb y Llewod. Caiff y wobr ei roi i unigolyn sy'n helpu pobl yn y gymuned ac yn gwneud lot o waith yn lleol.

"Chwech mis yn ddiweddarach daeth Mr Evans ataf a dweud fod angen i mi fynd i Glwb Llewod Rhydaman i roi cyfweliad bach o flaen tîm o feirniaid yn amlinellu'r hyn rwy'n ei wneud yn y gymuned. Roedd 5 neu 6 ohono ni yna, ac fe enilles i y rownd yna! Ges i £100 ac fe benderfynes i roi'r arian hwnnw tuag at Gymorth Cristnogol, gan fy mod ynghlwm gyda'r Capel yma yn Alltwen.

"O ganlyniad i ennill y rownd yna fe es i ymlaen i'r rownd ranbarthol. Cafodd hwn ei gynnal yng Nghasnewydd nôl yn Ionawr 2006. Ces i fy nghyfweld unwaith yn rhagor o flaen tîm o feirniaid, ond y tro yma roedd yn rhaid i mi baratoi cyflwyniad power point hefyd gan amlinellu a disgrifio'r hyn roeddwn i'n ei wneud yn lleol. Fe enilles i'r rownd honno hefyd, a'r tro yma fe ges i £500. Fe wnes i benderfynu rhannu'r arian fel a ganlyn:

"£100 i Apêl Pontardawe ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006; £100 i Gymorth Cristnogol; £150 i Glwb Gateway yng Nghastell-nedd gan eu bod yn helpu pobl efo Down Syndroms a Cerebral Palsy (Mae gen i gefnder sydd ynghlwm â'r clwb); a £150 i Apêl Ysgol Gyfun Ystalyfera i anfon nwyddau i Gartref Plant Amddifad yn Ecuador. Yn 2005 fe es i ar alldaith mas i Ecuador a tra oeddwn i yno roeddwn i'n gweithio gyda thîm Cartref Plant Amddifad.

"Doedd braidd dim 'da nhw; dim cyllyll a ffyrc, dim nwyddau golchi ayb. Yr unig bethau oedd 'da nhw oedd y dillad roedden nhw yn ei wisgo, gwely, papur a phensil. Roedd hyn wedi cael y fath effaith arno ni fel pan ddaetho ni gartref fe benderfyno ni fel tim i godi arian i hala nwyddau angenrheidiol mas 'na. Aeth y lot cyntaf mas fis Ebrill 2006.

Helpu yn y gymuned
Heather Williams o flaen y capel"Dwi wrth fy modd yn helpu yn y gymuned. Dwi'n helpu yn y Capel, yn paratoi a threfnu gwasanaethau i'r plant. Nes i hefyd helpu gyda'r gwasanaeth Nadolig, a gan fy mod i'n chwarae'r piano dwi'n gallu cyfeilio i'r emynau.

"Yn ogystal â helpu yn y capel, rwyf yn helpu gyda Ysgol Gynradd y Wern yn fy ngwersi rhydd. Yno, rwy'n helpu gyda gwersi Mathemateg, darllen a Cherddoriaeth. Hefyd, gan fy mod i wedi cyrraedd gradd 8 ar y piano a'r ffidil, rwyf nawr yn rhoi gwersi i blant lleol ac ar hyn o bryd rydw i'n helpu gyda 'Clydach Operatic Society' gyda'i ymarferion nhw o 'Return to the Forbidden Planet' sy'n cael ei berfformio ym Mhontardawe wythnos cyntaf o fis Mai, 2006.

"O ganlyniad i ennill y wobr yma ges i gwpan mawr yn ogystal â gwyliau i unrhyw le yn Ewrop. Dwi'm yn siwr ble i fynd eto ond ar hyn o bryd dwi eisiau mynd i Ynys Corsica, ond falle fydd hynny'n newid!"

Gan: Heather Williams

Bu Heather Williams ar fws Âé¶¹Éç Cymru pan oedd ar ymweliad â'r Alltwen yn Ebrill 2006. Cliciwch yma i ddarllen mwy am fws Âé¶¹Éç Cymru a sut medrwch chi gyfrannu.

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Âé¶¹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Bws Âé¶¹Éç Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý