Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Abertawe
Cerflun o Dylan Thomas yn Abertawe Abertawe: wyddech chi?
Dyma restr o ffeithiau am ddinas Abertawe a'r ardal gyfagos. Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw ffeithiau diddorol y gwyddoch chi amdanynt, trwy lenwi'r ffurflen ar waelod y ddalen.
  • Daeth yr enw Saesneg am Abertawe, "Swansea", o enw un o wÅ·r Nors, Sweyne a sefydlodd gymuned yno cyn dyfodiad y Normaniaid.

  • Adeiladwyd Neuadd y Dref, Abertawe, rhwng 1929 a 1934 gyda'r tŵr yn symbol o ffyniant hyd yn oed ar adeg pan oedd yn wasgfa ar weddill y wlad.

  • Ddechrau'r 1700au pan oedd Caerdydd yn dal yn bentref pysgota, Abertawe oedd y porthladd allforio glo mwyaf yng Nghymru.

  • Yn y 1900au yr oedd mwy o gopr yn cael ei brosesu yn Nyffryn Tawe nag yn unman arall yn y byd. Ar hyd y pedair milltir rhwng y fan lle mae'r M4 heddiw a cheg Afon Tawe yr oedd dros 150 o weithfeydd yn 1890.

  • Yn y 1950au, Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ei enwi'n Ardal o Harddwch Arbennig gan y Comisiwn Cefn Gwlad.

  • I Arglwydd Margam y mae'r diolch nad oes rheilffordd i Benrhyn Gŵyr. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dadleuodd y byddai rheilffordd yn tarfu ar yr harddwch.

  • Tyfodd Pontardawe ar y groesffordd rhwng dau lwybr porthyn, un o Abertawe i Aberhonddu a'r llall o Gastell-nedd i Lanymddyfri.

  • Dechreuodd Abertawe ddatblygu o ddifri wedi dyfodiad y Normaniaid yn yr 11eg ganrif. Fe adeiladwyd castell yma ganddyn nhw yn y 12fed ganrif a datblygodd y dref o amgylch y castell hwnnw.

  • Trên y Mwmbwls oedd y cyntaf erioed i gludo teithwyr ac fe gludai ymwelwyr o Abertawe i dref glan môr y Mwmbwls.

  • Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

  • Yn 1982 agorwyd marina Abertawe.

  • Ganwyd y bardd Dylan Thomas yn Rhes Cwmdonkin yn rhan uchaf y ddinas a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Abertawe lle roedd ei dad yn athro Saesneg.
  • Cliciwch yma am fwy am Dylan Thomas

  • Gelwir pobl Abertawe yn lleol yn 'Swansea Jacks.' Ci oedd yn byw yn y ddinas yn y 1940au oedd y 'Swansea Jack'. Dywedir i'r ci arbed 27 o bobl a dau gi rhag boddi! Cafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion!

  • Yn Abertawe y mae'r farchnad draddodiadol dan do fwyaf yng Nghymru.

  • Amgueddfa Abertawe yw'r amgueddfa hynaf yng Nghymru. Mae'n cynnwys gwrthrychau Eifftaidd, Rhufeinig a Chymreig ac yn 'drysorfa o hanes Abertawe'.

    Oes gennych chi ragor o ffeithiau diddorol? Llenwch y ffurflen isod i roi gwybod i ni.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Âé¶¹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Bws Âé¶¹Éç Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý