麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hwlffordd
Frizbee 'Noson allan' gyda Frizbee a Vanta
Prin iawn bydd bandiau'r s卯n roc Gymraeg yn dod lawr i Sir Benfro ar ymweliad, heb s么n am ddod lawr i Hwlffordd.
Felly, pan gysylltodd Rhian o Fenter Iaith y sir gyda fi i ddweud bod y Fenter yn mynd i drefnu gig hollol Gymraeg gyda bandiau Frizbee a Vanta fel rhan o'r prosiect 'Noson Allan', roeddwn i wrth fy modd.

Y lle oedd: Clwb Rygbi Hwlffordd. Agorodd y drysau am wyth o'r gloch ac erbyn naw o'r gloch roedd cynulleidfa deilwng o bobl yn bresennol yno yn aros yn eiddgar i weld y grwpiau yn perfformio.

Vanta ddechreuodd y noson gyda set acwstig oherwydd salwch y drymiwr ar y noson. Er gwaetha hyn, cawson ni berfformiad da iawn gan y band ifanc o'r Gogledd. Yr oedd yna flas 'Coldplay/The Killers' yn eu caneuon, er eu bod yn canu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg wrth gwrs.

Ar 么l saib o ryw chwarter awr daeth Frizbee ar lwyfan fach y Clwb. Does dim syndod o gwbl taw nhw yw un o'r bandiau gorau Cymraeg ar hyn o bryd. Perfformiad egn茂ol a dweud y lleiaf ac mae'r prif leisydd a'r gitarydd Ywain Gwynedd yn berson arbennig iawn. Mae e'n llwyddo i chwarae solos a git芒r rhythm yn gymysg i gyd. Dim ond un gair - Gwych! Clywon ni hen ffefrynnau fel 'Aur', 'Ti (Si Hei Lw)' a 'Lennongiaeth' gyda thraciau oddi ar eu halbwm diwethaf 'Pendraw'r Byd' fel 'Heyla'. Wnewch chi mo'u hanghofio nhw o gwbl ar 么l clywed y gwrandawiad cyntaf, dwi'n addo. Noson fendigedig!

Ges i gyfle i gael sgwrs fach gydag Ywain ar ddiwedd y noson gan ddiolch iddyn nhw am ddod lawr i dde Sir Benfro a rhoi noson mor arbennig i ni'r gwrandawyr. Maen nhw am ddod yn 么l. Felly os colloch chi nhw'r tro 'ma, bydd cyfle gobeithio yn y flwyddyn newydd i'w gweld a'u clywed eto!

Gan Kevin Knox



Lluniau
Radio Cymru
Natur


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy