MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Y Gang a'r doniau hwyr Ydi, mae Eisteddfod Genedlaethol Dinbych wedi dechrau, a sawl grwp eisoes wedi perfformio. Hyd yma mae Paccino wedi creu argraff fawr ar Eisteddfodwyr, wedi iddyn nhw berfformio ddwywaith yn ystod y diwrnod agoriadol. Er nad oedd hogia Prifysgol Bangor yn rhan o鈥檙 lein-yp gwreiddiol ar gyfer Parti Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd y Dref, Dinbych, does yna ddim amheuaeth iddyn nhw berfformio yno nos Sadwrn, a phwysleisio - yn union fel ym Mhabell Dinistr am un ar ddeg y bore - eu bod ymhlith grwpiau mwyaf addawol y s卯n roc yng Nghymru ar hyn o bryd. Y tri o F么n Grwp arall sydd wedi creu argraff yn ddiweddar ydi Arika, sef tri hogyn ifanc o Ynys M么n. Arika enillodd gystadleuaeth grwpiau Uned 5 yn gynharach eleni wrth gwrs, ac wrth wylio eu perfformiad brynhawn Sadwrn 鈥檙oedd hi鈥檔 amlwg pam. O
ystyried eu bod mor ifanc mae hi鈥檔 syndod fod cerddoriaeth Arika yn swnio
mor aeddfed, ac yn sicr fe fydd unrhyw un sy鈥檔 hoff o Gogz yn eu gwerthfawrogi.
Yn syml, felly, 鈥檙ydym yn edrych ymlaen at glywed sesiwn Arika ar raglenni Gang Bangor yn y dyfodol agos 鈥� Mae鈥檙 Gang yn awyddus i gynnig sesiwn i Quidest hefyd, gan fod y demo a dderbyniwyd yn gynharach eleni wedi creu argraff yn syth. Yn wir 鈥檙oedd hi鈥檔 braf clywed caneuon gwahanol gan Quidest ym Mhabell Dinistr brynhawn Sadwrn, yn hytrach na T芒n ac Amser Cyn Heddiw yn unig; ond uchafbwynt eu set heb os oedd fersiwn Gymraeg o glasur The Undertones - a hoff record John Peel erioed - Teenage Kicks. Gwyllt, gwych a gwallgo Uchabwynt
nos Sadwrn yn Neuadd y Dref, serch hynny, oedd Anweledig, gan fod criw 鈥橲tiniog
yn wyllt, yn wallgof ac yn hollol wych fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl,
ac mae hi鈥檔 bleser gallu cadarnhau ei bod hi鈥檔 bell o fod yn wag yn y Neuadd
- yn wahanol i鈥檙 hyn yr oedd rhywun yn ei ofni o ystyried mai hon oedd noson
gyntaf yr Eisteddfod. Os nad oeddech chi yn Ninbych dros y penwythnos, felly, gwnewch yn siwr eich bod ym Maes B erbyn nos Sadwrn, gan mai Anweledig fydd yn cloi pethau yno bryd hynny. Maes B fydd y lle i fod heno hefyd, wrth i dri o grwpiau mwyaf gweithgar y s卯n ymddangos ar y llwyfan. Cofiwch ddarllen ein sylwadau ni am Gogz, Caban a Maharishi yfory, tra mai Alcatraz fydd yn mynd 芒鈥檔 bryd ni draw ym Mhabell Dinistr, a hynny am ddau o鈥檙 gloch.
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |