MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Noson Siomedig yng nghwmni Gogz, Caban a Maharishi I
feddwl ei bod hi鈥檔 ddechra鈥� mis Awst a鈥檙 tywydd wedi bod yn reit ffafriol
hyd yn hyn 鈥榙wi鈥檔 meddwl fod tywydd dechra鈥� wythnos y 鈥楽teddfod wedi rhoi
downar ar bobol, a doedd yr awyrgylch ddim fel yr oeddwn i鈥檔 ei ddisgwyl.
Gwag oedd pabell Maes B a doedd adborth y gynulleidfa ddim yn galonogol iawn. Ond gan mai dechrau鈥檙 wythnos oedd hi fe alla i faddau i鈥檙 nifer aeth i gig Gogz, Caban a Maharishi. O glywed hanes y gigs eraill sydd wedi bod hyd yn hyn, dechra鈥� gwan iawn sydd wedi bod y flwyddyn hon. Dydw i ddim yn meddwl fod cael Gogz i ddechra鈥檙 noson wedi helpu 鈥榗hwaith. Siomedig oedd perfformiad y band yma i mi. Roedd llawer o鈥檙 caneuon yn undonog a ni chafwyd dim amrywiaeth. O鈥檔 i鈥檔 teimlo nad oedd y band wedi rhoi cant y cant i鈥檙 perfformiad 鈥榗hwaith. Doedd 鈥榥a ddim egni tu 么l i鈥檙 perfformiad ac o ganlyniad i hyn siomedig iawn oedd adborth y gynulleidfa. Dim ond llond llaw oedd i fyny鈥檔 dawnsio ac yn dangos eu cefnogaeth i鈥檙 band, a鈥檙 gweddill yn clecio peintiau wrth ochr y bar heb gymryd dim diddordeb yn y grwp. Roedd perfformiad Caban yn llawer gwell. Buan iawn roedd pobol yn gadael y bar ac yn codi i ddawnsio ac i weiddi ar y band. Roedd yr egni yn amlwg y tu 么l i鈥檙 caneuon ac roedden nhw i weld fel tasa nhw鈥檔 mwynhau eu hunain gymaint 芒鈥檙 gynulleidfa. Awyddus
oedd pawb i glywed uchafbwynt y noson, sef Maharishi. Heblaw bod Maharishi
wedi bod yn perfformio neithiwr byddai nifer y gynulleidfa wedi bod yn llawer
llai. Roedd llwyddiant y noson yn dibynnu arnyn nhw. Credaf bod y gynulleidfa wedi mwynhau ac yn falch eu bod wedi dod. Ond fe fyddwn i鈥檔 anghytuno 芒 mwyafrif y gynulleidfa a dweud mai Caban oedd uchafbwynt y noson. Mi wnes i fwynhau yn fawr iawn ac efallai byddai鈥檙 band wedi bod yn well na Masharishi i orffen y noson. Ar y cyfan reit siomedig oedd y noson. Dim y grwpiau oedd yr unig fai am hyn ond roedd nifer y gynulleidfa a鈥檜 diffyg cefnogaeth nhw wedi creu awyrgylch isel iawn. Gobeithio y bydd bandiau weddill yr wythnos yn well ac y bydd y tywydd yn gwella hefyd er mwyn codi hwyliau yr Eisteddfodwyr.
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |