MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Dinistr yn y Mwd Dyfan Tudur yn cael ei syfrdanu yn y Babell Roc Er 鈥� gwaethaf y glaw a鈥檙 mwd 鈥榬oedd yna ddigonedd o fwrlwm ym Mhabell Dinistr brynhawn Mawrth. Efallai nad oedd yna gymaint o grwpiau鈥檔 perfformio ddoe, ond 鈥榬oedd yr hyn a welwyd yn y Babell Roc yn syfrdanol. Cerddoriaeth ddawns yn arddull Louisiana mae Cajuns Denbo yn ei gynnig, ac mae hi鈥檔 drueni mewn ffordd nad oedd neb yn dawnsio ddoe, gan fod eu caneuon i gyd yn gofyn am ryw fymryn o symud o flaen y llwyfan. Er hynny 鈥榬oedd hi鈥檔 amlwg fod pawb wedi mwynhau eu perfformiad, ac yn sicr mi fydd gwerthiant cryno ddisgiau Cajuns Denbo yn cynyddu ar 么l yr hyn a welwy yn Dinistr ddoe. Uchafbwynt y diwnod, serch hynny, oedd ymddangosiad Caban, ac 鈥榬oedd hi鈥檔 amlwg nad oedd hogia Llaberis wedi blino yn dilyn noson hwyr ym Maes B, gan eu bod yn llawn bwrlm ac egni fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Mae gofyn llongyfarch Caban hefyd, gan mai nhw ydi鈥檙 rhai cyntaf i lenwi鈥檙 Babell Roc eleni, a rhywsut neu鈥檌 gilydd mi ddiflanodd y glaw tra 鈥榬oedden nhw鈥檔 perfformio hefyd! Dyma grwp sydd yn llwyddo i roi gw锚n ar wynebau pawb sydd yn gwrando arnynt, gan eu bod yn llawn hwyl o un g芒n i鈥檙 nesaf. Ac o ystyried y cynydd sydd yn eu poblogrwydd ar hyn o bryd, ni fedraf ond rhagweld mai Caban fydd yn cloi gweithgareddau Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi ymhen deuddeg mis. At ddydd Mercher, ac mae yna hen edrych ymlaen at Gystadleuaeth y Grwpiau Roc fydd yn cael ei chynnal rhwng un a thri. Cofiwch ddychwely i鈥檙 dudalen hon yfory am adroddiad llawn 鈥�
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |