MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Bant cerdd dant - mewn a'r grwpiau roc Dyfan Tudur o Gang Bangor yn gweld cystadlu go arbennig Fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae yna hen ddigon o s么n wedi bod am gerdd dant, alawon gwerin a llefaru; felly dwi鈥檔 falch iawn o gael dweud fod yna gystadleuaeth ar gyfer y grwpiau roc wedi cael ei chynnal. Ym mhle? Wel, ym mhle arall ond y Babell Roc! Tri
grwp o Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a welwyd ar y llwyfan brynhawn ddoe, ac
鈥榬oedd yr amrywiaeth oedran yn anhygoel.Newydd ddechrau mynychu鈥檙 ysgol uwchradd mae aelodau Hejog, ac 鈥榬oedd hi鈥檔 braf iawn gweld grwp mor ifanc yn rhoi cynnig arni. Fel dywedodd Non Parry, un o鈥檙 beirniaid, fedr grwpiau ddim dechrau yn rhy ifanc, ac mae鈥檙 ffaith i Hejog gystadlu ddoe yn siwr o roi hwb iddynt barhau i berfformio yn y dyfodol. Diddorol ydi鈥檙 unig air i ddisgrifio caneuon Tudalen Wag, gan fod yna sawl cyfeiriad at athrawon hoff a thyner Ysgol Glan Clwyd! Dyma grwp arall sydd yn sicr 芒 photensial, ond fel Hejog mae yna dipyn o waith datblygu eto, a鈥檙 ffordd orau o wneud hynny ydi trwy geisio trefnu cyfres o gigs bychain yn lleol. Yn y cyfamser, llongyfarchiadau i鈥檙 drymiwr 鈥� Rhys 鈥� gan mai ef enillodd y wobr am yr offerynwr gorau yn ytod y gystadleuaeth. 鈥楻oedd hi鈥檔 amlwg i bawb fod gan Rhys dalent aruthrol, ac felly 鈥榬ydym yn disgwyl pethau mawr gan y gwr ifanc yma 鈥� At y grwp buddugol, ac oherwydd eu bod yn fwy profiadol Mwsog aeth 芒 hi yng nghystadleuaeth y grwpiau roc eleni. Mae aelodau Mwsog yn ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd hefyd, ond y gwahaniaeth ydi eu bod ar fin dechrau eu cyfnod yn y chweched dosbarth. Cafwyd ambell i g芒n gofiadwy iawn gan Mwsog brynhawn ddoe, ac 鈥榝elly fe fydd hi鈥檔 braf clywed ssiwn gan y grwp ar raglenni Gang Bangor cyn bo hir. Wedi dweud hynny, efallai bod tueddiad i arbrofi鈥檔 ormodol gydag ambell g芒n. Ni weithiodd y ffanffer enwog o 鈥�2001: A Space Odyssey鈥� cystal ddoe 芒鈥檙 hyn a gafwyd ddydd Llun er enghraifft, ond gyda digon o ymarfer a gigio fe fydd y gwendid hwn yn siwr o leihau. 鈥楻oedd hi鈥檔 werth rhoi cynnig arni ddoe, gan fod Mwsog yn ennill 拢1000! Yn 么l Huw o鈥檙 grwp mi fydd yr arian yn mynd tuag at wella sain cyffredinol Mwsog, a hynny trwy brynu PA ac ati. Pob lwc i鈥檙 hogia felly, a diolch i鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol am roi cyfle i grwpiau ifanc ddatblygu eu doniau. Mae hi鈥檔 drueni mewn ffordd na fyddai mwy o sylw yn cael ei roi i gystadleuaeth o鈥檙 math yma, ond gyda lwc dim ond mater o amser fydd hynny 鈥�
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |