MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Hows-at! - noson hwyliog mewn neuadd Bingo Adolygiad Catrin Jones Bingo Bach yw sioe Theatr Bara Caws yn ystod wythnos yr eis teddfod
eleni. Mae鈥檔 cael ei pherfformio yn Neuadd Bentref Llandyrnog ac yr oeddwn
i yn y perfformiad cyntaf nos Fawrth. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i鈥檞 ddisgwyl wrth gamu i鈥檙 neuadd - wedi鈥檙 cyfan, mae Bara Caws yn gwmni arbrofol a鈥檌 sioeau mor amrywiol. Doedd wybod beth fyddai gofyn i ni鈥檙 gynulleidfa ei wneud. A doedd y sioe hon ddim yn eithriad. Yn y fynedfa rhoddwyd cerdyn bingo i ni. Ar lawr y neuadd wedyn roedd byrddau wedi eu gosod yn union fel mewn neuadd Fingo. Fe鈥檔 tywyswyd gan yr actoresau oedd mewn gwisgoedd lliwgar i eistedd wrth y byrddau. Roedd y llwyfan wedi鈥檌 osod fel llwyfan bingo a phlatfform yn ymestyn i ganol y gynulleidfa. Wrth i bawb gyrraedd yn raddol roedd y genod yn cynnig paned i ni a chynnig cadw鈥檔 cotiau. Dyma greu鈥檙 awyrgylch o鈥檙 dechrau felly. Roeddwn i yn teimlo fel pe bawn mewn neuadd bingo go iawn. Ddechreuwyd y sioe gyda g锚m o Bingo - ffordd effeithiol o dynnu鈥檙 gynulleidfa i鈥檙 perfformiad o鈥檙 dechrau, ac roeddem i weiddi 鈥�濒别颈苍鈥� neu 鈥�丑辞飞蝉鈥�. Roedd hyn yn creu tipyn o hwyl a bwrlwm ac yn ddechrau hwyliog i鈥檙 noson. Popeth mewn neuadd Fingo Roedd popeth yn digwydd yn y neuadd fingo. Chawsom ni ddim ein tywys y tu allan i鈥檙 pedair wal o gwbwl yn ystod y perfformiad. Os yw drama鈥檔 cael ei chanoli mewn un lle yn unig fe all fod yn undonog, ond doedd hyn ddim yn wir am Bingo Bach. Roedd yma ddigon o adloniant i hoelio鈥檔 sylw o鈥檙 dechrau i鈥檙 diwedd. Roedd y stori yn troi o gwmpas pedair merch yn gweithio yn y neuadd, Rhonda (Catrin Fychan), Wendy (Carys Gwilym), Siw (Tammi Gwyn) a Sal (Elin Wmffras). Roedd y cymeriadau鈥檔 wahanol iawn ac yn raddol datgelwyd bywydau pob un i ni, eu breuddwydion a鈥檜 pryderon. Hefyd fe gawsom ein cyflwyno i gymeriadau oedd yn dod i chwarae bingo i鈥檙 neuadd yn rheolaidd. Cymeriadau oedd yn byw i chwarae bingo fel Lily, Dil a Don. Ac i Carol ac Yvonne, dwy ferch yn eu hugeiniau - mamau sengl wrth eu bodd yn mwynhau. Cafwyd digon o hwyl gyda鈥檙 cymeriadau hyn ac yn sicr fe gawson nhw鈥檜 portreadu鈥檔 gredadwy iawn. Yr un actoresau oedd yn portreadu鈥檙 cymeriadau hyn i gyd. Felly er mai dim ond pedair oedd yn perfformio fe gawsom ein cyflwyno i lu o gymeriadau. Canmol y pedair Mae鈥檔 rhaid canmol perfformiad y pedair. Cafwyd perfformiadau cryf ganddyn nhw ac roeddwn nhw wedi llwyddo yn fy marn i i uniaethu a鈥檜 cymeriadau. Roeddwn i鈥檔 teimlo ein bod ni fel cynulleidfa wedi dod i adnabod y cymeriadau i gyd erbyn y diwedd ac yn cydymdeimlo a nhw a鈥檜 bywydau undonog. Roedd pob un o鈥檙 merched ac eithrio Siw yn dyheu am gael dianc o鈥檙 lle ac roeddwn yn tosturio wrthyn nhw. Roedd
yma ddigon o hiwmor i鈥檔 diddanu drwy鈥檙 cynhyrchiad drwy ffraethineb y merched
a鈥檜 ffraeo parhaus.Cawsom ambell g芒n hefyd, cyfieithiadau o ganeuon Saesneg cyfarwydd fel I Will Survive a Money, Money, Money oedd yn addas iawn i sioe o鈥檙 math hwn ac yn creu awyrgylch. Roedd y caneuon yn cael eu defnyddio i gyfleu teimladau鈥檙 merched a鈥檜 breuddwydion. Rhaid dweud fy mod wedi mwynhau鈥檙 noson roedd yn wahanol ac roedd hi鈥檔 braf bod yn rhan o鈥檙 perfformiad. Roedd y ffaith ein bod yn cael ein trin fel cynulleidfa neuadd Bingo go iawn yn golygu ein bod yn gallu uniaethu a鈥檙 cymeriadau. Roedd y ffaith fod y cymeriadau鈥檔 perfformio yn ein canol yn gwneud y ddrama鈥檔 fyw ac yn symud ein sylw i bob rhan o鈥檙 ystafell nid y llwyfan yn unig. Da hefyd oedd cael sgript gyflawn Sian Summers yn y rhaglen - rhywbeth i鈥檞 wneud eto yn y dyfodol gyda cynhyrchiadau eraill. Os am noson hwyliog, noson o gomedi a ch芒n mae鈥檔 werth mynd i weld Bingo Bach. Chewch chi mo鈥檆h siomi.
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |