MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Y baneri allan i drindod Dinbych Teyrnged i Kate, Gwilym R a Mathonwy Agorwyd
Theatr y Maes ddydd Sadwrn gyda rhaglen deyrnged i dri o enwogion bro鈥檙
Eisteddfod.Cynhyrchiad oedd hwn i goff谩u Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones a Kate Roberts, tri a wnaeth gyfraniad gwerthfawr i fyd llenyddiaeth a newyddiaduraeth Gymraeg. John Ogwen oedd yn cyflwyno gyda Gaynor Morgan Rees, a oedd hefyd yn gyfrifol am y cynhyrchu, a J.O.Roberts yn darllen gweithiau鈥檙 tri. John Idris Owen oedd wedi ysgrifennu鈥檙 sgript ac mae鈥檔 rhaid ei ganmol gan fod yma gynllun manwl a鈥檌 fod wedi llwyddo i bortreadu cymaint o agweddau o fywyd y tri. Darlunio sawl elfen Roedd
hi鈥檔 dipyn o gamp llunio sgript ar gyfer rhaglen o鈥檙 fath gan fod yna gymaint
o bethau y gellid bod wedi eu cynnwys. Llwyddodd John Idris Owen i ddethol
yn ddoeth gan ddarlunio nifer o elfennau gwrthgyferbyniol. Roedd yn adnabod y tri ac felly roedd hyn o gymorth mawr iddo wrth fynd ati i ysgrifennu gan ei fod yn gallu portreadu鈥檙 elfen bersonol. "Wedi gwneud yr ymchwil i鈥檞 gwaith a鈥檜 bywyd fe es i ati i ddethol y darnau poblogaidd o鈥檜 gweithiau ac ystyried pa linynnau oedd yn eu cysylltu." Roedd y cynhyrchiad wedi鈥檌 rannu鈥檔 them芒u penodol a thrwy鈥檙 naratif roeddem ni鈥檙 gynulleidfa鈥檔 cael ein tywys yn gelfydd o un thema i鈥檙 llall. Creu un cylch cyfan Dechreuwyd drwy s么n am fagwraeth y tri yn Arfon a sut yr aethant wedyn i fyw i Ddinbych. Aethpwyd ymlaen i s么n am sefydlu Gwasg Gee a鈥檙 Faner oedd yn creu dolen gyswllt rhwng y tri. Dolen gyswllt arall wrth gwrs oedd eu cenedlaetholdeb a dyma鈥檙 thema nesaf. Wedyn trafodwyd eu cyfraniad fel llenorion, yr elfen ddireidus yng nghymeriad y tri, eu cyfraniad crefyddol ac yn olaf y ffaith i鈥檙 tri fyw鈥檔 hen. Roedd hyn felly鈥檔 creu un cylch cyfan gan ddechrau a鈥檜 plentyndod a gorffen 芒 henaint. Portreadwyd hyn i gyd drwy ddefnyddio sawl cyfrwng. Roedd darnau o鈥檙 gweithiau鈥檔 cael eu darllen a rhai cerddi鈥檔 cael eu canu gan Driawd Caeran. Rhaid canmol darlleniad grymus J.O.Roberts o 鈥楥wm Tawelwch鈥�, cerdd enwog Gwilym R. Hefyd darllenwyd rhai llythyrau. Diddorol oedd y ddau lythyr dderbyniodd Gwilym R. gan Saunders Lewis a Kate Roberts oedd yn dangos yn glir nad oedd ymwneud 芒 mawrion y genedl yn fel i gyd. Doedd y rhain ddim wedi鈥檜 cyhoeddi o鈥檙 blaen ac felly鈥檔 annisgwyl i ni鈥檙 gynulleidfa. Cymysgedd o'r difrif a'r digrif Roedd y darllen ymhell o fod yn undonog oherwydd y dawn dweud a鈥檙 ffaith bod y detholiadau mor wahanol. Cafwyd cymysgedd o鈥檙 difrifol a鈥檙 digri gyda perlau fel cywydd teyrnged Gwylim R i Kate Roberts a cherddi ysgafnach fel Gwaredigaeth gan Mathonwy Hughes sy鈥檔 s么n am arwisgo 鈥�69. Defnyddiwyd dulliau eraill o gyflwyno hefyd. Dangoswyd fideo o gyfweliad 芒 Gwilym R a chafodd y darn poblogaidd o Te鈥檔 y Grug, sef y te ar y mynydd, ei lwyfannu gan dair o ferched y fro. Dywed John Idris Owen
"Mae 鈥榥a ddarnau o Kate Roberts sy鈥檔 gallu bod yn drwm ac mae鈥檙 straeon
byrion yn rhy hir i鈥檞 darllen. Ond roedd modd dramateiddio Te鈥檔 y Grug
ac roedd hyn yn rhoi balans i鈥檙 rhaglen."I ychwanegu at hyn i gyd dangoswyd hen luniau o鈥檙 tri drwy gydol y perfformiad ac roedd hyn yn creu awyrgylch. Yn sicr dyma deyrnged gofiadwy i dri a gyfrannodd gymaint i fywyd Dinbych a Chymru. Mae鈥檔 werth i鈥檞 weld ac os na lwyddoch chi i fynd i Theatr y Maes ddydd Sadwrn peidiwch 芒 cholli鈥檙 cyfle i weld y cynhyrchiad ddydd Iau.
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |