麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwaith amserol yn Nyffryn Clwyd

Catrin Jones yn cyfarfod dau gydag amser ar eu dwylo

Mae yna hen, hen, hanes o wneud clociau yn nyffryn Clwyd - ac yn Ninbych yn arbennig.

Ac mae鈥檔 draddodiad sy鈥檔 parhau gyda dau glociwr wrth eu gwaith yn y dref heddiw - un ohonyn nhw yn enillydd cenedlaethol.

Troi cefn ar fod yn athro

Paul ParkerEnw busnes Paul Parker yw Clociau鈥檙 Dyffryn.

Chwe blynedd yn 么l penderfynodd adael ei swydd athro yn ysgol Howells yn Ninbych a mentro agor ei fusnes trin clociau ei hun.

Bu鈥檔 uchelgais ganddo ers amser i gychwyn gyrfa cwbwl wahanol.

Tra roedd yn dal i ddysgu dilynnodd gwrs tair blynedd gyda鈥檙 BHI (British Honorological Trust).

"Roedd yn waith llawer anoddach na chael fy ngradd gyntaf. Doedd fy nghof ddim cystal ac roedd pwysau mawr arna i ar y pryd. Heddiw dwi鈥檔 trysori鈥檙 cymhwyster hwn yn fwy na fy ngradd gyntaf."

Gan ei fod yn trin y clociau yng nghanol y siop gall cwsmeriaid ei weld wrth ei waith.

Daw pobol a鈥檜 clociau ato o bob rhan o ogledd Cymru ac y mae mae rhestr aros o rhwng pum a chwe mis i drwsio cloc.

Diddordeb ers yn fachgen

Tomi ClociwrUn arall o drigolion Dinbych sy鈥檔 trwsio clociau yw Tomi Roberts neu Tomi Clociwr i鈥檞 ffrindiau.

Mae鈥檔 gwneud hynny yn ei amser hamdden er boddhad.

Bu ganddo ef ddiddordeb mewn clociau ers yn fachgen.

"Roedd hen berthynas i mi, Clwydfardd - David Griffith - yn glociwr yn y dref flynyddoedd yn 么l. Roedd ganddo ef fusnes gwneud clociau yn nhop y dref."

Clwydfardd oedd yr archdderwydd ym 1855 ac yr oedd yn arbenigwr arm wneud clociau.

Aelod arall o鈥檙 teulu oedd Richard Griffith, gwneuthurwr clociau yn y ddeunawfed ganrif.

Trwsio watsus ffrindiau

Pan oedd Tomi yn yr ysgol byddai鈥檔 trwsio watsus ei ffrindiau.

Er mai peiriannydd yn Ysbyty Gogledd Cymru oedd o wrth ei waith treuliai鈥檙 gyda鈥檙 nos a鈥檙 penwythnosau yn trwsio clociau mewn gweithdy y tu 么l i鈥檞 gartref.

"Hobi oedd hon ar hyd yr amser ac ar 么l t锚 fe fyddwn i鈥檔 mynd ati i wneud clociau."

Wedi iddo ymddeol yn gynnar trodd at y grefft o ddifri ac y mae wedi trin miloedd o glociau erbyn hyn.

Ennill gwobrau
Ei arbenigrwydd pennaf yw ei fod yn gwneud ei glociau ei hun yn wahanol i relyw clocwyr Dyffryn Clwyd ac y mae鈥檔 gwneud ei sgriws ei hun hyd yn oed.

Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda鈥檌 grefft gan gynnwys gwobr am gloc mawr wyth niwrnod yn
Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, 1985, enillodd wobr gyntaf am wneud cloc sgerbwd mewn cas gwydr ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, 1987, bu鈥檔 fuddugol am wneud cloc yn defnyddio dwr.

Dywedodd Tomi Roberts fod pendil a phwysau yn gwneud clociau yn fwy cyson a dibynadwy.

Ar gyfer perffeithio鈥檌 grefft cafodd hyfforddiant ym mhencadlys y BHI ger Nottingham.

Ond dywed fod ei ddiddordeb a鈥檌 chwilfrydedd ef ei hun yn bwysig hefyd.

"Gan fod Clwydfardd a鈥檌 dad yn glocwyr, mae鈥檔 ddigon posib fod yna rywbeth yn y gwaed," meddai.

Mae鈥檔 arbenigwr ar greu clociau tywydd (barometers) hefyd.

Nid yn unig y mae trwsio yn ei weithdy ond yn ymweld 芒 chartrefi pobl hefyd.

Y traddodiad clociau yn Nyffryn Clwyd

Roedd Dinbych yn amlwg iawn yn y grefft tan ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

A hithau yn dref fwyaf llewyrchus Dyffryn Clwyd ymffrostiai mewn nifer o deuluoedd dylanwadol fel y Myddletons a鈥檙 Cloughs a chanddyn nhw gysylltiad agos 芒 Llundain a鈥檙 modd I fod yn berchenogion clociau.

Ar y dechrau roedd nifer o glociau ym Mhrydain yn cael eu gwneud gan grefftwyr lleol, yn aml gan ofaint gan mai鈥檙 hyn oedd ei angen yn bennaf i wneud y gwaith oedd y gallu i weithio 芒 haearn.

Aeth rhai ymlaen i wneud y grefft yn rhan bwysig o鈥檜 busnes.

Bu 1657 yn drobwynt pwysig pan ddyfeiswyd cloc pendil a olygai y gallai clociau gadw amser yn gywir.

Cyn hynny roedd clociau鈥檔 cyflymu yn y gaeaf ac yn arafu yn ystod yr haf.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif daeth nifer o deuluoedd yn enwog am wneud clociau yn Nyffryn Clwyd a datblygodd y grefft ymhellach yma yn ystod y 19eg ganrif.

Erbyn diwedd y ganrif roedd wyth clociwr yn Ninbych o gymharu a phedwar yn ystod y 18fed ganrif.
Straeon Eisteddfod 2001:
麻豆社
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy