MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Rhwng meini'r Orsedd Cerrig
milltir pwysig yn hanes Gorsedd y Beirdd Mae鈥檙 Orsedd yn cynnwys beirdd, awduron, cerddorion ac artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i鈥檙 iaith Gymraeg, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Mi allwch chi sefyll arholiad i ymnuno â'r Orsedd. Gall unrhyw un sydd wedi graddio yn y Gymraeg fod yn aelod. Gelwir ei haelodau鈥檔 dderwyddon ac maent yn gwisgo dillad gwyrdd, glas neu wyn yn 么l eu gradd - urdd ofydd, urdd bardd ac urdd derwydd. Y rhai sydd yn gwisgo鈥檙 wisg wen yw鈥檙 rhai pwysicaf. Yn ddiweddar galwodd Hywel Teifi Edwards am ychwanegu gwisg goch hefyd. Mae鈥檙 Orsedd yn dod ynghyd yn ystod seremon茂au fel y Cadeirio a'r Coroni ac adeg cyhoeddi Eisteddfod. Defnyddir corn gwlad i alw ar bobol o bedwar ban byd i ddod yng nghyd ac wedyn mae gweddi鈥檙 orsedd yn cael ei llafarganu. Mae gan yr Archdderwydd swyddogaeth bwysig gan mai ef sy鈥檔 dal y cledd uwchben y cystadleuydd buddugol wedi iddo gael ei gyrchu i鈥檙 llwyfan. Bydd y cledd yn cael ei dynnu o鈥檙 wain deirgwaith wrth i鈥檙 archdderwydd alw 鈥�A oes heddwch?鈥� Mae鈥檙 corn hirlas yn cael ei gyflwyno fel y gall yr Archdderwydd, sy鈥檔 sefyll ar y maen llog, yfed o win croeso鈥檙 ardal. Cyflwynir basged o flodau i鈥檙 archdderwydd o dir a phridd Cymru. Bydd plant yn perfformio dawns flodau yn ystod y seremon茂au. Am y tro cyntaf erioed bydd pob aelod yn cael pleidleisio i ddewis Archdderwydd yn 2001. Sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Fehefin 22, 1792, gan gyfarfod gyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain. Penderfynodd Iolo Morgannwg gynnal y cyfarfod cyntaf yn Llundain am ei fod yn credu ei fod yn cynrychioli鈥檙 hen fyd Brythonaidd a鈥檌 fod yn fodd i ddangos y traddodiad derwyddol i鈥檙 Saeson. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yng Nghymru ym Mryn Owen ym Morgannwg, 1795. Aeth Iolo ati i sefydlu Gorsedd ym mhob ardal yng Nghymru. Yn 1819 cysylltwyd yr Orsedd a鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan gynhaliodd Iolo seremoni yng ngardd gwesty鈥檙 Ivy Bush, Caerfyrddin. Ni fu cysylltiad wedyn tan 1858 pan drefnwyd gorsedd ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Llangollen. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1888 ffurfiwyd Cymdeithas yr Orsedd yn cynnwys pwyllgor a swyddogion etholedig. Penderfynwyd mai鈥檙 Gymraeg fyddai unig iaith y gymdeithas Wrth i鈥檙 Eisteddfod dyfu daeth yr Orsedd yn amlycach ac yn elfen bwysig iawn o鈥檙 wyl. Tri phaladr goleuni yn cyfarfod ar doriad gwawr ar ganol haf a chanol gaeaf I ffurfio llygad goleuni yw nod cyfrin yr Orsedd yn 么l Iolo Morganwg.
Y delyn,offeryn cerdd traddodiadol Cymru, sy鈥檔 gyfeiliant i holl weithgareddau鈥檙
Orsedd. Mae Archdderwydd yn cael ei ethol am dair blynedd. Ni all person fod yn Archdderwydd ddwywaith yn olynol. Rhaid i Archdderwydd fod yn Brifardd neu Brif Lenor. Yr Archdderwydd yw pennaeth yr Orsedd ac is-lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |