MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
'Balch
o fod adref'Y ffotograffydd Philip Jones Griffiths wedi cyrraedd yr Eisteddfod Mae Philip Jones Griffiths yn falch iawn bod ei waith yn cael ei arddangos yn y Babell Gelf a Chrefft yn yr Eisteddfod eleni ac mae鈥檔 ei ystyried yn fraint. Yn enedigol o Ruddlan mae Philip Jones Grifftiths yn ffotograffydd byd enwog ac yr oedd ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych beth cyntaf fore Sadwrn. Yn enwog am ei luniau o ryfeloedd yn enwedig Rhyfel Fietnam yr oedd wedi hedfan o Efrog Newydd i ddod i weld yr arddangosfa. "Dwi鈥檔 gynnyrch Dyffryn Clwyd ac mae bob amser yn dda bod adref," meddai wrth 麻豆社 Cymru'r Byd. Dal i deithio Mae鈥檙 ffotograffydd hwn yn dal i deithio o gwmpas y byd gyda鈥檌 gamera. Yr wythnos nesaf fe fydd yn mynd yn 么l i Gambodia ac Indonesia ac wedyn fe fydd yn hedfan i Lundain erbyn Hydref 1af ar gyfer lansiad ail argraffiad ei 鈥榁ietnam Ink鈥�. Mae wrth ei fodd yn teithio o amgylch Asia "Mae na rhythym arbennig i fywyd yn Asia a dwi wrth fy modd gyda hynny." Lle dechreuodd y diddordeb mewn ffotograffiaeth felly? Wedi gadael yr ysgol fe aeth Philip Jones Griffiths i weithio fel fferyllydd. Ond cafodd lond bol ar gyfri鈥檙 tabledi bob dydd a phenderfynodd newid cyfeiriad a dilyn gyrfa鈥檔 tynnu lluniau. Dilyn ei reddf Ni dderbyniodd unrhyw hyfforddiant dim ond dilyn ei reddf. "Pan oeddwn i鈥檔 fferyllydd roeddwn i鈥檔 dysgu am gemeg a ffiseg ac felly roedd hyn yn gymorth i mi wrth i mi droi at dynnu lluniau. Doedd 鈥榥a ddim mewn ffotograffiaeth oedd yn fy nrysu wedyn. Dwi wastad wedi deall prif egwyddor y grefft sef meddwl byw a llygaid craff. Yn fuan teimlodd yr ysfa i fynd i鈥檙 gwledydd hynny lle roedd gwrthdaro a dal y cyfan gyda鈥檌 gamera. "Mae鈥檔 anodd dweud yn sicr pam y mae gen i ddiddordeb mewn gwrthdaro ond mae wedi bod yna erioed. Yr hyn yw gwrthdaro fel arfer yw grwp bychan o bobol yn y byd yn ceisio rheoli grwp sy鈥檔 fwy. Mae pethau鈥檔 cael eu datgleu yn ystod rhyfel a dyma amser lle gallwch weld pethau鈥檔 glir." Yn y dyfodol fe allwn edrych ymlaen am fwy o lyfrau gan Mr Griffiths "Mae鈥檔 anochel y bydda i鈥檔 gwneud llyfr ar Gambodia a鈥檙 newidiadau yn Fietnam ers y rhyfel. Ond un broblem wrth ysgrifennu llyfr yw nad oes dim esgus gennych i fynd yno mor aml wedyn."
| |
|
© MMI |
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |