Âé¶¹Éç

Dyfroedd Cynaliadwy: Byw gyda Llifogydd

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Cymunedau Amazon yn goroesi'r llifogydd.

Mae Afon Negro yn un o lednentydd Afon Amazon. Rhaid i'r bobl sy'n byw ar lan yr afon baratoi'n gynnar er mwyn gallu bwydo eu teulu yn ystod tymor y llifogydd mwyaf yn y byd. Mae'r pentrefwyr yn meithrin cyflenwad bwyd sy'n unigryw i'w hamgylchedd - crwbanod.I gynnal a hybu ymhellach niferoedd y crwbanod, mae'r pentrefwyr wedi sefydlu eu project cadwraeth crwbanod eu hunain. Y cwestiwn mawr ydy: a fydd digon o grwbanod yn goroesi i fwydo'r pentrefwyr yn ystod y llifogydd?
O: Human Planet Rivers - Friend and Foe
Darlledwyd yn gyntaf : 24 Chwefror 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Ardal gyferbyniol, Ecosystemau, Afonydd, Aneddiadau, Adnoddau cynaliadwy

Allweddeiriau : Afonydd a rheoli dŵr, Peryglon naturiol, Afon Amazon, Brasil, Hinsawdd drofannol, Coedwigoedd glaw

Nodiadau : Ymchwiliwch a lluniwch restr o ffeithiau a ffigurau'n ymwneud ag Afon Amazon. Cymharwch graff o hinsawdd ardal Afon Amazon â graff tebyg o Gymru neu'r Deyrnas Unedig. Defnyddiwch y clip i ddangos sut mae poblogaethau'n goroesi ger afonydd ac yn ymdopi â grymoedd byd natur, e.e. llifogydd. Gallai'r disgyblion ystyried sut mae llifogydd weithiau'n gallu bod o fudd.Cyflwyniad perthnasol i gynaliadwyedd.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Âé¶¹Éç iD

Llywio drwy’r Âé¶¹Éç

Âé¶¹Éç © 2014 Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.