麻豆社

Cyflwyno cais

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Dai Jones yn cyflwyno cais gan wrandawr ar y rhaglen 'Ar Eich Cais'

Geirfa

  • wyddoch chi be'?
  • yn prysur fynd
  • braint
  • agoriadol
  • cewri
  • godidocaf
  • cyfarchion
  • 诺yr (wyrion)
  • Eryr Pengwern

Gwrando a deall

  1. Sut mae'r tywydd, yn 么l Dai?
  2. Ble mae e wedi treulio'r penwythnos?
  3. Pwy welodd e yng Nghaerdydd?
  4. Beth sy'n digwydd yn y siopau?
  5. Beth sy'n bwysicach na dim, yn 么l Dai?
  6. Ers faint o amser mae e wedi cyflwyno 'Ar eich Cais'?
  7. Oddi wrth bwy mae'r llythyr?
  8. Am beth mae awdur y llythyr yn adnabyddus?
  9. Faint yw oed Eirwen Jones?
  10. Sut mae Dai yn ei chanmol?

Iaith

a) Weithiau mae'r Gymraeg yn defnyddio mwy nag un berfenw i gyfleu cysyniad tra bo Saesneg yn defnyddio un. Er enghraifft, gwybod / adnabod yn Gymraeg, ond yn Saesneg, 'to know' yn unig. Rhestrir tair enghraifft o hyn yn y golofn ar y chwith. Lluniwch 8 brawddeg trwy ddefnyddio'r berfenwau hyn mewn perthynas 芒'r enwau yn y golofn ar y dde:

gwario / treulio esgidiau / arian / amser
achub / arbed / cynilo traed / person / arian
tebyg / tebygol troi'n wlyb / i'w fam

b) Gwrandewch ar y darn eto gan sylwi ar y tagiau / ychwanegiadau a ganlyn:

  • Caerdydd 'na chi
  • a wyddoch chi be'
  • alla i ddim gofyn am fwy
  • 'na alla'?
  • yn wir i chi
  • chi'n mbod
  • ddylwn i ddeud
  • 'dych chi ddim yn edrych hynny
  • Na Dafydd, o ran hynny
  • 芒 chroeso calon

c) Ychwanegwch y cynffoneiriau (tagiau) cywir

  • Dw i'n edrych yn iawn, ..........?
  • Dydy e ddim wedi mynd, ..........?
  • Roedden nhw yn y t欧, ..........?
  • Fyddi di ddim yn y g锚m, ..........?
  • Doedd e ddim yn chwerthin, ..........?
  • Fe enillon nhw yn y diwedd, ..........?
  • Tom yw dy enw di, ..........?
  • Mae ganddi gar, ..........?

Tafodaith

Brodor o Geredigion yw Dai Jones. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar nodweddion ei iaith lafar?

Trafod

  1. Rydych yn mynd i wneud cais am record i Dai Jones. Penderfynwch i bwy a pham gan s么n rhywbeth am wrthrych y cais a'r rheswm dros y dewis.
  2. "Mae rhaglenni fel, 'Ar eich Cais' ond yn ffordd hawdd o arbed arian i'r cwmn茂au darlledu". Trafodwch.

Ymadroddion

  • am yn ail
  • wythnos fach go lew
  • y fath fraint

Ysgrifennu

  1. Ysgrifennwch gerdyn post at Dai Jones yn gwneud cais am record.

Trawsgrifiad

Helo 'na, bobol annwyl. Shwd i chi? Wel, on'd yw hi'n dywydd hyfryd? Does dim byd yn well na tamed o rew yn y bore ac awyr iach a heulwen am yn ail, be fwy allwn ni ofyn amdano? Shwd i chi gyd? Wedi treulio'r penwythnos lawr tua Caerdydd 'na chi, a wyddoch chi be', efo'r Ffermwyr Ifanc, ynde, a'r Jonesiaid. Alla i ddim gofyn am fwy, 'na alla'?

'Da chitha gobeithio wedi cael wythnos fach go lew a mae'r hydref yn brysur fynd eto ac mae 'na, .... a wyddoch chi be, y siope 'ma - Dolig, Dolig yw popeth. Yn wir i chi, os gewn ni iechyd dyw'r tymhore hyd yn oed ddim mor bwysig. A chi'n mbod, dw i ar "Ar eich cais" 'ma ers rhai blynyddoedd rwan ond ches i rioed y fath y fraint 芒 heddiw, neu heno ddylwn i ddeud, a chael llythyr agoriadol ... oddi wrth un o gewri'r genedl, a g诺r sydd yn byw ym mro Ddyfi ac yn uchel ei barch, un o'n beirdd godidoca'.

"Annwyl Dai", meddai'r llythyr, "cyfarchion i'm gwraig Eirwen Jones, Blaenplwyf Uchaf, Aberangell, oddi wrth y g诺r, Dafydd Wyn Jones. Mae Eirwen yn bedwar ugen ar y 7fed o Dachwedd". Ac Eirwen annwyl, 'dych chi ddim yn edrych hynny, 'na dach, na Dafydd o ran hynny. Daw'r cyfarchion hefyd oddi wrth y plant, yr wyrion, a'r wyresa. Hoffe glywed C么r Gore Gles ac Aled Wyn Davies yn canu Eryr Pengwern. Diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, 'di Pengwern ddim ymhell iawn o Blaenplwyf yn nacdi? Hyfryd Dafydd ydy cael gair oddi wrthoch chi ac fe gewch 芒 chroeso calon - dyma nhw i chi, C么r Gles ac Aled.

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.