麻豆社

Adroddiad tywydd a ffyrdd

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Last updated: 12 October 2010

Enghraifft o ragolygon y tywydd ac adroddiad ffyrdd

Geirfa

  • glaw m芒n
  • cawod(-ydd)
  • mwyn
  • selsiws
  • tymheredd
  • gostwng
  • diflannu
  • nosi
  • ffordd (ffyrdd)
  • atgyweiriadau
  • rhwystrau
  • cyffordd
  • 濒么苍

Gwrando a deall

  1. Sut mae'r tywydd, yn 么l y bwletin?
  2. Sut roedd y tywydd cyn heddiw?
  3. Pa fath o law ddisgwylir yn ystod y prynhawn?
  4. Fydd y tywydd yn oer iawn?
  5. Ble bydd llawer o law dros nos?
  6. Pa fath o dywydd ddisgwylir yfory?
  7. Sut mae'r tywydd yn debygol o fod erbyn nos Wener?
  8. Beth ddigwyddodd ar ffordd A4107?
  9. Pam mae'r ffyrdd ar gau yng nghanol tref Aberhonddu?
  10. Pam bydd un 濒么苍 ar gau ar ffordd yn Wrecsam?

Iaith

a) Beth yw ffurf luosog yr enwau a ganlyn:

  • ffordd
  • 濒么苍
  • traffordd
  • croesfan
  • lori
  • cwmwl
  • gwynt
  • storm
  • awel
  • cawod
  • taran

b) Os mai south-west (S-W) yw 'de-orllewin', beth yw,

  • S-E
  • N
  • N-W
  • E
  • S-W
  • W
  • N-E
  • S

c) Lluniwch frawddegau am y twydd yn cynnwys y canlynol:

  • disgwylir
  • cafwyd
  • lledu
  • ysbeidiol
  • trymion
  • y tymheredd
  • gostwng
  • cyfnewidiol

ch) Oes angen defnyddio'r fannod (y, yr, 'r) yn y brawddegau hyn ai peidio? Ydy'r defnydd ohoni gywir? Cywirwch lle bo angen:

  • Hwyliodd y llong i'r Iwerddon.
  • Mae'n well gen i haf.
  • Ydy Parch Tom Jones yn byw yma?
  • Daliodd y gath y lygoden.
  • Dw i'n hoffi cerdded ar lan y Tywi.
  • Ydych chi'n nabod y dau ddyn?
  • Chi biau rhain?
  • Roedd e'n eistedd yn y haul.

Trafod

  1. Disgrifiwch y tywydd yn eich ardal chi a) heddiw b) yn ystod yr wythnos c) yfory.
  2. Disgrifiwch unrhyw broblemau trafnidiaeth sy'n blino trigolion eich ardal chi.
  3. Soniwch am eich atgofion am y tywydd yng nghyfnod eich plentyndod.

Ymadroddion

  • glaw m芒n
  • arllwys y glaw
  • tywallt y glaw
  • hindda neu ddrycin

Ysgrifennu

  1. Cadwch record ddyddiol o'r tywydd yn ystod yr wythnos.
  2. Ysgrifennwch lythyr at eich cyngor lleol yn cwyno am broblem ar y ffyrdd yn eich ardal.
  3. Gyrru.
  4. Tywydd Cymru ddoe a heddiw.

Trawsgrifiad

Wel, ar 么l sawl diwrnod sych ac eitha braf, digon diflas fydd hi heddiw, gen i ofn, yn gymylog a gwlyb gyda hen law m芒n bore 'ma, fydd yn troi yn gawodydd trymach yn ystod y pnawn, yn enwedig yn y gogledd. Serch hynny, fydd hi'n fwyn, y tymheredd yn cyrraedd pymtheg gradd Celsius, sy'n 59 Fahrenheit, ond mae disgwyl noson oerach na fu hi neithiwr ac echnos - y tymheredd yn gostwng i ddwy radd Celsius.Y glaw, fodd bynnag, yn diflannu i gyfeiriad y de ddwyrain dros nos a mi fydd fory yn ddiwrnod sych a heulog ar y cyfan, heblaw am gawod neu ddwy yn y gogledd. Dydd Gwener hefyd yn sych rhan fwya'r dydd ond mae disgwyl glaw erbyn iddi nosi.

Y ffyrdd: ac yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r A4107 wedi ailagor rhwng Tanygroes a Ffordd Talbot, yr A48, yn dilyn damwain rhwng lori a dau gar yn gynharach. Ym Mhowys mi fydd ffair Aberhonddu yn parhau tan ganol dydd, hynny'n golygu fydd y ffyrdd yng nghanol y dref ar gau tan hynny, ac yn Wrecsam mi fyddan nhw'n atgyweirio rhwystra ar yr A483, rhwng cyffordd 4 a 5 tan ddydd Gwener, neith olygu un 濒么苍 yn fan'no hefyd. Dyma'n rhif i: 08703 500 500.

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.