In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Last updated: 12 October 2010
Hanes Guto Si么n, cath o Lanberis, sydd wedi tyfu'n rhy dew
Geirfa
- anifeiliaid anwes
- cyw 颈芒谤
- medru symud
- sbriws
- prydau bwyd
- llusgo
Gwrando a deall
- Beth yw enw cath Mair Ffowcs?
- Beth sy'n bod ar y gath?
- Pa enwau sydd gan y pentrefwyr arno?
- Pryd mae e'n bwyta cyw 颈芒谤?
- Beth arall mae e'n ei fwyta yn ystod y dydd?
- Sut mae e'n symud?
- Ble mae'r gath yn hoffi mynd?
- Sut rydyn ni'n gwybod ei fod yn fawr?
Iaith
a) Beth yw'r enw gwrywaidd / benywaidd cyfatebol?:
| Gwrywaidd | Benywaidd |
| cath | cwrcyn/gwrcath |
| ci | |
| llewes | |
| caseg | |
| mochyn | |
| 颈芒谤 | |
| clacwydd | |
| buwch |
b) Dywedir am y gath ei bod 'yn bwyta fel ceffyl benthyg'. Pa rai, yn eich barn chi, sy'n cyfateb?
- Yn yfed fel paun
- Yn rhegi fel mochyn
- Yn siarad fel lladd nadroedd
- Yn rhochian fel pwll y m么r
- Yn gweithio fel ych
c) Mae ystyr rhai geiriau yn amrywio yn y de a'r gogledd. Enghraifft o hyn yw pan yw Jonsi yn dweud "Brwnt, 'te?'. Ystyr 'brwnt' yma yw 'creulon / cas'. Yn y de, yr ystyr yw 'aflan'. Ceisiwch weld beth yw gwahanol ystyron y geiriau hyn:
- allt
- diniwed
- llofft
- blin
Tafodaith
Mae'r ddau siaradwr o Wynedd. Faint o 么l tafodiaith sydd ar eu sgwrs o ran:
- geirfa
- terfyniadau geiriau
- ymadroddion
- tonyddiaeth?
Ystyriwch y sgwrs o dan y penawdau hyn.
Trafod
- Anifeiliaid anwes - mantais neu rwystr? Trafodwch.
- Cymharwch gathod a ch冒n fel anifeiliaid anwes.
Ymadroddion
- bwyta fel ceffyl benthyg
- yn 么l y s么n.
Pan nad yw Mair Ffowcs yn gallu cofio gair, mae hi'n defnyddio 'pethma' (thingamy). Y gair yn y de yw 'bechingalw'. Maen nhw hefyd yn cyfleu 'whatsit' a 'whatyoucall'!
Ysgrifennu
- Portread o anifail anwes.
- Anifeiliaid mewn chwedlau, ffilmiau neu nofelau.
- Mae anifeiliaid anwes yn cael gormod o sylw. Trafodwch.
Trawsgrifiad
Roedd anifeiliaid anwes yn obese ac un felly 'di cath Mair Ffowcs o Lanberis, Guto Si么n. Yn 么l bob s么n, mae'r hen Guto Si么n yn byta fatha ceffyl benthyg a mae pentrefwyr hen bentra bach Llanb锚r yn ei alw'n "Fat Cat" - brwnt hefyd 'te?
I frecwast de, mae'n cael sachet pysgod te - w'ch chi'r sachets bach 'na, un o'r rheina. Wedyn, cyw 颈芒谤 i ginio. Fydda i'n gneud saith iddo fo'n barod . . . o beth 'na a wedyn fyddan nhw'n cymyd un bob dydd a wedyn crunchies i de a bwyd arbennig gan y vet, SD, i swpar.
Mae'n byta'n well na chi Mair?
(chwerthin) . . . yndi . . .
Ydi o'n medru symud rywfaint?
O yndi, tad, mae o reit sbriws. Mae o'n gallu symud yn dda iawn.
Symud at ei bowlan fwyd, ia?
Na, dydio ddim mor gymaint 芒 hynny. Na, mae o reit . . mae'n mynd allan. Mae'n mynd hyd y caeau 'ma a betha felly.
'Da chi am roi llai o bryda bwyd iddo fo?
Wel dw i ofn bydd raid i mi. Mae'i fol o'n llusgo hyd lawr bron. . (chwerthin)... fel mae hi a mae pawb yn alw fo yn famma yn - Sais yn alw o'n Fat Cat, rywun arall yn alw fo'n Black Panther a rywun arall ddoe ar y 麻豆社 'di alw fo'n Big Black Cat.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.





