麻豆社

Guto Roberts yn s么n am gymeriad gwreiddiol

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Last updated: 13 October 2010

Guto Roberts yn s么n am Rol, Croesor Bach, un o gymeriadau gwreiddiol pentref Croesor

Geirfa

  • arbenigrwydd
  • hyderu
  • ias
  • cwta ddeufis
  • dyhead
  • disymwth
  • mudo
  • eirin tagu
  • cyforiog
  • llwm
  • moel
  • surni
  • moethusrwydd
  • coinio
  • cymariaethau
  • gwaith sets
  • dihafal
  • annioddefol
  • clecian
  • glaw taranau
  • nobl

Gwrando a deall

  1. Pa mor adnabyddus oedd Rol?
  2. Ers pryd mae e wedi marw?
  3. Sawl brawd oedd ganddo?
  4. Sut roedd e'n dymuno marw?
  5. Ble bu Guto Roberts yn sgwrsio ag ef?
  6. I ble symudodd e o Groesor?
  7. Beth roedd e'n ei fwyta "yn hogyn 10 oed"?
  8. I ba fath o deulu y perthynai?
  9. Ble bu'n gweithio ar un adeg?
  10. Pam roedd ei het wellt wedi mynd "fel clustia' sbaniel"?

Iaith

a) Lluniwch frawddegau yn cynnwys yr ymadroddion canlynol a ddefnyddiwyd yn y sgwrs:

  • rhyfeddol o
  • aml i dro
  • ers tro byd
  • am fy nhraed
  • clamp o

b) Pa eiriau eraill a ddefnyddiwyd yn y sgwrs i gyfleu:

  • gobeithio
  • sydyn
  • symud
  • ers amser
  • tlawd
  • chwerwder
  • anghymarol
  • het fawr

c) Rhestrwch y geiriau hyn o dan y penawdau Dymunol neu Annymunol: ffraeth; twp; cwynfanllyd; caredig; swrth; byrbwyll; galluog; cymwynasgar; cybyddlyd; hynaws; siriol; ffiaidd

Tafodaith

Brodor o Eifionydd yng Ngwynedd oedd Guto Roberts. Gwrandewch ar ei sgwrs eto a nodwch beth sy'n digwydd i'r terfyniad lluosog -au yn y geiriau: 'sgidiau; awgrymiadau; cymariaethau; taranau a clustiau.

Trafod

  1. Llunio sgwrs fer am unrhyw 'gymeriad' rydych yn ei nabod.
  2. Ysgrifennwch enwau cymeriadau adnabyddus hanesyddol neu gyfoes ar gardiau a glynwch nhw ar gefnau eich cyd-aelodau yn y dosbarth 芒 selotape. Tasg pob un bydd ceisio darganfod pwy ydyw trwy gerdded o gwmpas a holi'r lleill.

Ymadroddion

  • ar un adeg
  • am gyfnod
  • ymhen tipyn
  • ar 么l ysbaid
  • ar fyr o dro
  • ychydig yn 么l

Ysgrifennu

  1. Portread o gymeriad.
  2. Llunio rhestr o gwestiynau ar gyfer holi cymeriad lleol.

Trawsgrifiad

Chydig iawn ohonoch chi fydd wedi clywad s么n am y cymeriad dw i am ddeud gair neu ddau amdano fo heno 'ma a hyd yn oed wedi i mi ei enwi fo, dim ond chydig iawn o bobol mewn rhyw gylch o bum milltir i Borthmadog oedd yn ei nabod o, ond roedd i Rolant ei arbenigrwydd a chyn diwedd y sgwrs 'ma dw i'n hyderu y byddwch chi yng nghanolbarth a de Cymru wedi teimlo rywfaint o i芒s yr arbenigrwydd hwnnw. Cwta ddeufis sy 'na er pan fu farw Rol, Croesor Bach, neu Rolant Panwyl Williams, i roi ei enw fo'n llawn, ac yng Nghroesor Bach, Croesor, yn un o dri o fechgyn, y magwyd o. Mi fuo'r ddau frawd arall, sef Dafydd a Ben, farw yn sydyn a disymwth, chydig o flynyddoedd yn 么l a dull Rolant o fynegi ei ddyhead o am farwolaeth debyg oedd hwn: "Dw i'n disgwyl ca i farw 芒 sgidia am 'y nhraed," a mi gafodd, yn union felly.

Ro'n i wedi dod i nabod Rolant Williams ers tua ugian mlynadd, nid yn rhyfeddol o dda ond yn ddigon da, er hynny, i fynd ato fo i'r t欧 am sgwrs ryw unwaith neu ddwy ac amal i dro y b没m i'n sgwrsio efo fo ar y stryd ym Mhorthmadog. Roedd o wedi dod o Groesor ac wedi setlo ym Mhorthmadog ers tro byd a phan ofynnodd rywun iddo fo yn fuan ar 么l y mudo sut oedd o'n setlo yn y Port, medda Rolant, "Dw i'n hapusach na buo mi er pan o'n i'n hogyn deg oed yn bwyta eirin tagu", a dyna i chi atab sy'n gyforiog o awgrymiada. Hynny ydy, roedd o wedi dod o gefndir mor llwm a moel nes y cyfrifid surni eirin tagu yn foethusrwydd. A dyn efo'r ddawn a'r gallu i goinio cymariaethau cofiadwy fel yna oedd Rol, Croesor Bach. Mi ofynnodd rywun iddo fo rywdro sut ddyn oedd hwn a hwn, a dyma'r atab: "Y dyn iawn i ddeud bod hi'n braf neu bod hi'n bwrw wrtho fo".

Roedd o wedi bod yn gweithio ar un adag yn y gwaith set ym Minffordd a mae 'na stori amdano fo yn s么n am ryw wsnos o dywydd dihafal o boeth yn y cyfnod hwnnw. "Erbyn dydd Gwenar," medda Rol, "roedd hi wedi dwad yn anioddefol a dyna hi'n dod i glecian at y tri o'r gloch yma ac yn law t'rana mwya diawledig welist ti rioed. Ro'n i 'di cychwyn yn bora efo clamp o het wellt noblia welist di am ben neb ond pan o'n i'n cyrraedd yn f '么l chydig wedi pump roedd hi wedi mynd yn union fel clustia spaniel".

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.