麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

David Thomas ar ei feic Beicio yn Sir y Fflint
Ers colli ei waith yng ngwaith dur Shotton chwe blynedd yn 么l, mae David Thomas wedi bod yn brysur yn gwneud dau beth sy'n agos at ei galon - ailddysgu'r Gymraeg a gollodd yn 诺r ifanc, a beicio.
Dyma ei gyngor i feicwyr yn sir y Fflint:

"Ddaru mi ddechrau beicio drwy seiclo i'r gwaith yn Shotton, oedd yn bellter o tua tair milltir. Wedyn mi ddaru mi fynd am drip beics i Iwerddon am dair wythnos - 900 milltir ddaru ni ei wneud. Tair wythnos - ac un dydd a hanner o law - dyna'r cwbl!

"Dydw i ddim yn perthyn i glwb beicio ond mae clwb Chester and North Wales yn cyfarfod yn Eureka Cafe yn Two Mills ger Neston ar yr Wirral. Mae'n gaffi seiclo enwog - roedd na feiciwr Olypaidd yn arfer mynd yno. Mi enillodd nifer o gystadlaethau ryw 10-15 mlynedd yn 么l.

"Mae pawb yn cyfarfod ar ddydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul - llwyth o glybiau o dros y Wirral i gyd yn cwrdd yno a mynd allan ar deithiau beic.

"Os ydych chi eisiau cychwyn beicio yn yr ardal mae na amrywiol glybiau i ymuno 芒 nhw. Y cwbl wnes i oedd ffonio ysgrifennydd clwb seiclo ac maen nhw'n eich rhoi mewn cysylltiad efo lle bynnag rydych chi eisiau mynd - maen nhw'n rhoi rhaglenni ichi ar gyfer gogledd Cymru i gyd - clybiau yng Nghaer, Wyddgrug, Dinbych.

"Maen rhaid ichi fod yn aelod o'r CTC (mudiad beicio Prydain) i ymuno. Does dim t芒l aelodaeth i ymuno 芒 chlwb ond maen rhaid ichi fod yn aelod o'r prif gorff.

"Does na ddim cyfyngiadau o ran ffitrwydd - mae llawer o'r clybiau yn rhedeg tripiau teulu ac mae gan siopau yng Nghaer hysbysebion i fudiadau sy'n cynnal teithiau i deuluoedd, tripiau mawr a bach bob wythnos, ac mae 'na lawer o dripiau elusennol.

"Drwy gaffi Eureka fydda' i'n mynd bob tro - oddi yno mae pawb yn cychwyn. Mae ganddon ni l么n dda iawn yn mynd o Gaer i Shotton, yna i fyny'n uwch ar hyd y ffordd, pigo'r l么n i fyny yn Gronant ac yna'r holl ffordd i Landudno oddi ar y ffordd, yna dilyn y l么n feicio hyd ochr y ffordd i Fangor.

"Yr unig broblem ydy fod na lot o wynt ar y l么n i Fangor yn chwythu yn eich erbyn o'r m么r.

"Mae'n reid hyfryd o Brestatyn i Landudno. Dwi wedi gwneud y daith o Shotton i Fangor sawl gwaith hefyd - gan aros y noson yn yr hostel ieuenctid. Dwi'n hen law ar aros mewn hosteli erbyn hyn!"

David Thomas
Un o Dreffynnon ydy David Thomas yn wreiddiol ond yn byw yn Shotton r诺an. Gyda'i rieni a'i nain a'i daid yn siaradwyr Cymraeg, aeth i ysgol gynradd Gymraeg ac roedd yn un o fyfyrwyr cyntaf Ysgol Gymraeg Glan Clwyd yn y Rhyl.

Ond collodd ei Gymraeg ar 么l mynd i weithio i ffatri awyrennau British Aerospace ym Mrychdyn ger Caer wedi gadael yr ysgol. Er fod rhai o'i ffrindiau yn siarad Cymraeg, dydyn nhw ddim yn cael cyfle i'w defnyddio gyda'i gilydd gan fod cynifer o'u ffrindiau eraill ddim yn ei siarad.

Mae'n cael gwersi Cymraeg yn yr Wyddgrug ers blwyddyn a hanner r诺an ond yn difarru na fyddai wedi cychwyn flynyddoedd yn 么l. Ond does dim digon o gyfle i ymarfer y tu allan i'r gwersi meddai - roedd un o'r tafarndai lleol yn cynnig nosweithiau siarad Cymraeg ers talwm ac fe hoffai gyfle tebyg i wneud hynny heddiw.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Oes ganddoch chi gyngor beicio neu oes ganddoch chi stori am ddysgu'r Gymraeg?
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Chwaraeon
Hanes
Ar y Marc


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy