Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dinbych
Kate Roberts Enwogion Dinbych
Pytiau am enwogion o dref Dinbych a'r ardal gyfagos.
Iolo Goch (1325 - 1398).
Bardd â'i gartref yn Llechryd. Ei ganu'n rhoi golwg ddiddorol ar fywyd yn Sir Ddinbych yn y Canol Oesoedd. Ef oedd un o'r beirdd cyntaf i ganu mawl ar fesur y cywydd. Yn enwog am ei gywyddau i Owain Glyndŵr ac yn arbennig ei gywydd i'r llys yn Sycharth.

Humphrey Llwyd (1527-68)
Dyneiddiwr, ysgolhaig a lluniwr mapiau. Pan oedd yn aelod seneddol Dinbych cyflwynodd fesur seneddol i gyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg. Mae cofeb iddo yn Eglwys Marchell. Ef luniodd y map cyntaf o Gymru i gael ei argraffu.

Twm o'r Nant
Thomas Edwards oedd enw iawn yr anterliwtiwr a anwyd yn Llanefydd ger Dinbych a'i fagu yn Henllan. Wedi dim ond ychydig wythnosau o ysgol aeth yn was fferm ond ymddiddorai yn y traddodiad barddol gan lunio, ac actio mewn, anterliwtiau. Bu'n gludwr coed yn Ninbych. Am gyfnod bu ar ffo yn ne Cymru oherwydd dyledion. Bu ef a'i deulu yn cadw tafarn a thollborth yn Llandeilo.

Ymysg ei weithiau mae hunangofiant a nifer o ganeuon oedd yn cael eu canu gan faledwyr mewn ffeiriau. Ond fel anterliwtiwr y mae'n cael ei gofion'n bennaf.

Mae ysgol wedi ei henwi ar ei ôl yn nhref Dinbych.

Thomas Gee
Cyhoeddwr a golygydd a anwyd yn Ninbych yn 1815. Yn 14 oed cafodd ei hyfforddi yn argraffdy ei dad a bu wedyn yn Llundain am ddwy flynedd cyn dychwelyd i ymuno â busnes ei dad.

Daeth yn gyfrifol am wasg Gee a dyfodd yn un o weisg enwocaf Cymru lle cyhoeddwyd Baner ac Amserau Cymru, papur Rhyddfrydol a Radical.

Dadleuai Gee dros ehangu'r bleidlais a datgysylltu'r eglwys yng Nghymru.

Dyma hefyd y wasg a gyhoeddodd Y Traethodydd a'r Gwyddoniadur Cymreig.

Robert Wynne o Garthewin
Un o dras teuluoedd bonedd gogledd Cymru. Etifeddodd blas y teulu, Garthewin, ger Llanfair Talhaiarn yn 1930, ac fe ddaeth yn gefnogwr brwd i'r diwylliant Cymraeg ac i genedlaetholdeb. Noddai Saunders Lewis y llwyfannwyd ei ddramâu mewn theatr a godwyd yn bwrpasol yng Ngarthewin.

Pan ymunodd â'r Eglwys Babyddol yn 1931 daeth Garthewin yn gyrchfan i gylch o Gatholigion Cymraeg. Ysgrifennodd Saunders Lewis awdl o foliant iddo.

Yn y 60au, caniataodd i aelodau o Fyddin Rhyddid Cymru ymarfer ar ei dir.

Thomas Gwynn Jones
Bardd, llenor, newyddiadurwr ac ysgolhaig a anwyd ym Metws-yn-Rhos, Dinbych.

Bu'n gweithio ar Baner ac Amserau Cymru a'r Herald Cymraeg.

Magodd ddiddordeb mewn ieithoedd a llenyddiaeth dramor ac fe'i hysbrydolwyd gan ysgolheigion eraill i astudio barddoniaeth ganoloesol.

Pan yn ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, am ei awdl Ymadawiad Arthur. Enillodd ail Gadair yn 1909 gyda Gwlad y Bryniau

Kate Roberts
Er wedi ei geni yn ferch i chwarelwr yn Rhosgadfan mae cysylltiad agos rhwng y Dr Kate a thref Dinbych lle bu'n byw a gweithio.

Symudodd yno yn 1935 o Aberdâr, lle bu'n athrawes, wedi iddi hi a'i gŵr, Morris T. Williams, brynu Gwasg Gee.

Wedi marwolaeth ei gŵr bu'n cynnal y wasg ar ei phen ei hun a chyhoeddi'r Faner.
Mwy am Kate Roberts.


Mathonwy Hughes
Bardd a newyddiadurwr o Lanllyfni ger Caernarfon. Nai i R.Silyn Roberts. Bu'n is-olygydd Y Faner ac yn 1956 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwilym R. Jones
Hefyd o Ddyffryn Nantlle ac yn gyfaill mawr i Fathonwy a'r Dr Kate. Bu'n olygydd Y Faner ac yr oedd yn fardd a nofelydd ac yn un o'r rhai cyntaf i arbrofi gyda'r mesur rhydd yn y Gymraeg. Ef yw'r unig un i ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith y Genedlaethol.

Geriant Vaughan Jones
Llenor, Gweinidog a Diwinydd a anwyd yn Llandudno ond â'i wreiddiau yn Nhrefaldwyn a Dinbych lle daeth i ymddeol yn 1974. Ysgrifennodd ddau lyfr diwinyddol Saesneg a nifer o nofelau Cymraeg gyda themâu seicolegol.

Syr Richard Clough
Y gŵr a ffurfiodd y Gyfnewidfa Frenhinol yn Llundain ar y cyd â Thomas Gresham. Daeth â phensaernïaeth yr Iseldiroedd i Ddyffryn Clwyd yn adeiladwaith Plas Clough ar gyrion Dinbych. Ar gyfer tŷ a adeiladodd ger Tremeirchion, Bachegraig, defnyddiodd gerrig o Antwerp. Bu ganddo gynlluniau i droi rhan o Afon Clwyd yn gamlas rhwng ei warws ym Machegraig â'r Rhyl ond bu farw cyn gorffen y cynllun. Ei ail wraig oedd Catrin o Ferain.
Mwy am Syr Richard Clough

Syr Henry Morton Stanley
Y newyddiadurwr a'r teithiwr a ddaeth o hyd i David Livingstone yn Affrica. Wedi ei eni yn Ninbych aed ag ef i'r tloty yn Llanelwy yn dair oed. Yn ddyn ifanc ymfudodd i New Orleans. Pan yn gweithio ar y New York Herald yr anfonwyd ef i Affrica i chwilio am Livingstone. Mae ysbyty wedi'i enwi ar ei ôl yn Llanelwy.

Ieuan Wyn Jones
Yn Ninbych, lle'r oedd ei dad yn weinidog gyda'r Bedyddwyr, y ganwyd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn yn 1987. Bu'n Gyn-Gadeirydd Plaid Cymru ac yn 2000 etholwyd ef yn Llywydd. Yn 1998 cyhoeddodd lyfr am Thomas Gee.

Hafina Clwyd
Awdur beirniad a llenor craff ay'n awr yn byw yn Rhuthun. Bu'n newyddiadurwraig ar Y Faner.

E. Tegla Davies
Gweinidog a nofelydd a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl, Dinbych. Yn fab i chwarelwr bu'n weinidog gyda'r Wesleaid. Ei gyfrol gyntaf oedd Hunangofiant Tomi . Yn ogystal â nofelau ysgrifennodd straeon ffantasi ond fe'i cyhuddwyd o 'bregethu' yn y rhain. Ei waith enwocaf oedd ei nofel hir, Gŵr Pen y Bryn sy'n disgrifio troedigaeth ffermwr yn ystod Rhyfel y Degwm.

Gwilym Hiraethog
Gŵr o Lansannan oedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr, ac yn arweinydd Radicalaidd dylanwadol ac yn olygydd a llenor yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ef oedd awdur yr emyn Dyma gariad fel y moroedd.

Philip Hughes
Actor o Ddinbych sydd wedi ymddangos yn Pobol y Cwm a Con Passionate ar S4C. Daeth yn ffefryn gyda'i bortread o'r Dyn Sâl ar y teledu. Cyn troi at actio bu'n canu gyda Chwmni Opera Cymru.

I ddarllen am fwy o enwogion o draws y Gogledd Ddwyrain - cliciwch yma.



Hanes
Straeon Digidol
Trefi


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý