麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Ff么r i Ffrainc - Eisteddfod 2004

Fe drodd Eisteddfod Gadeiriol y Ff么r yn eisteddfod ryngwladol am noson eleni a hynny gyda help ff么n symudol a phrifardd cymwynasgar.

Er na allai bardd buddugol y gadair, Mr Geraint Roberts o Lanelli, fod yn bresennol yng nghapel Ebeneser ar y 3ydd o Ebrill, fe allodd gymryd rhan yn y seremoni gadeirio.

Eluned Parry, ysgrifenyddes yr eisteddfod, sydd 芒'r hanes:

"Fe grewyd hanes yn Eisteddfod y Ff么r eleni pan enillwyd y gadair gan Mr Geraint Roberts, Prifathro Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.

"Cafodd y bardd ei gynrychioli gan ei fab, Ll欧r, a hynny am fod y bardd ar bererindod farddonol at fedd Hedd Wyn i Ffrainc.

"Pan ganodd Einir y corn gwlad, roedd ff么n symudol Ll欧r ymlaen, a'i dad yn sefyll i gael ei gadeirio yr un pryd yn Ffrainc gan y Prifardd Tudur Dylan Jones. Roedd y seremoni i gyd yn cael ei throsglwyddo dros y ff么n o'r Ff么r i Ffrainc.

"Dywedodd Geraint Lloyd Owen a arweiniai y seremoni fod hyn yn rhywbeth unigryw iawn. Tybed a ddigwyddodd hyn mewn unrhyw eisteddfod o'r blaen? Buasai'n ddiddorol gwybod ymhle a pha bryd?"

Fe dorrwyd record arall yn y gystadleuaeth i bobl ifanc 15 - 25 oed gyda 75 o gyfansoddiadau yn dod i law! Yr enillydd oedd Llinos Dafydd o Landysul (enillydd Cadair yr Ifanc yn Eisteddfod Llanllyfni eleni) gyda Dafydd Hughes a Rhiannon Hughes o Gricieth yn ail a thrydydd. Da gwybod nad yw'r diddordeb ymhlith yr ifainc yn pylu dim!

Ymhlith enillwyr y cystadlaethau agored oedd enillydd cadair Llanllyfni, T Graham Williams o Abertawe. Daeth i'r brig yn y Ff么r yng nghystadleuaeth y Stori Fer.

  • Darllenwch am gefndir Eisteddfod y Ff么r

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy