Medal i wraig o'r Rhiwlas Annes Glynn o'r Rhiwlas ger Bangor ydy enillydd prif gystadleuaeth rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae hi'n ennill y Fedal Ryddiaith am gyfrol o straeon meicro ar y testun Newid.
Mae Annes Glynn yn enedigol o Frynsiencyn, Ynys Môn, ond mae bellach yn byw yn Rhiwlas gyda'i gŵr, Dafydd, ac mae ganddynt ddau o blant, Siwan a Guto.
Mae wedi gweithio i nifer o bapurau a chylchgronau gan gynnwys yr Herald a'r Cymro ond mae bellach yn gweithio fel cyfieithydd.