|
Bellach mae nôl yng ngogledd Cymru, yn gweithio ar bapur lleol, i fòs y mae'n ei gasáu. Mae mewn dyled, ar fin colli ei swydd a'i gariad. Ac mae'n yfed gormod. Yna, mae Dafydd yn baglu dros stori frawychus sy'n cynnig cyfle iddo ddianc o'r twll y mae ynddo. Nid damwain achosodd farwolaeth sinistr y corff ar y rheilffordd. Ac nid yw'n credu am funud mai lladd ei hunan wnaeth ei ffrind. Rhaid i Dafydd ddatrys y dirgelwch sydd wrth wraidd y stori er mwyn achub ei groen ei hun - ond am ba bris? Dyma fanylion nofel ddatrys a dirgelwch hynod afaelgar a darllenadwy, Casglwr, sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer yn Llandysul. Fe'i dewisiwyd yn Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Mai 2004. Caiff y nofel ei lansio yn siop lyfrau Cab@n, Pontcanna, yng Nghaerdydd nos Iau, 13 Mai 2004. Awdur y nofel yw Llion Iwan sy'n gynhyrchydd rhaglenni ffeithiol gyda'r Âé¶¹Éç. Daw'n wreiddiol o'r Waunfawr ond mae'n byw bellach yng Nghaerdydd. Casglwr yw'r nofel gyntaf iddo ei hysgrifennu, ond cyhoeddodd lyfr taith, O Afallon i Shangri La gyda Gomer yn 2001.
 |