 |
 |
 |
Mawredd Mawr Cafodd Bryn F么n noson fawr yn nathliad 麻豆社 Radio Cymru ym Mangor ar nos Iau, 18 Tachwedd, wrth i bedair o'i ganeuon gyrraedd deg uchaf siart Mawredd Mawr 2004. |
 |
 |
 |
A datgelwyd hefyd mai hoff g芒n y genedl eleni yw Ceidwad y Goleudy, c芒n sy'n cael ei pherfformio gan Bryn F么n a'i Fand. Lluniau o'r noson Cafodd y noson ei chynnal yn yr Octagon ym Mangor a chafodd y 50 c芒n a gyrhaeddodd y brig eu datgelu ar y noson a gyflwynwyd gan Dafydd Du, Lisa Gwilym, Dylan Wyn ac Owain Gwilym. Bu gwrandawyr Radio Cymru yn pleidleisio ers wythnosau dros eu hoff ganeuon, a'r rhai gyrhaeddodd y deg uchaf oedd:
1 Bryn F么n, Ceidwad y Goleudy 2 Elin Fflur, Harbwr Diogel 3 Maharishi, T欧 ar y Mynydd 4 Dafydd Iwan, Yma o Hyd 5 Bryn F么n, Bardd o Montreal. 6 Bryn F么n, Rebal Wicend 7 Bryn F么n, Un funud fach 8 Meinir Gwilym, Wyt ti'n g锚m? 9 Frizbee, Ti 10 Anweledig, Ticitembo
 |
 |
 |
 |
 |  |
Eluned Glyn o Fachynlleth Roeddwn i'n disgwyl i Bryn Fon fod yn rhif un. Mae o'n amazing!!!
Erica Jones o Gaernarfon Noson wych! Roedd y bandiau i gyd yn dda, yn ENWEDIG Bryn Fon a'r Band. Lleoliad cyfleus iawn, a phawb yno yn Gymry yn mwynhau eu hunain a bonws fod y ticedi i fynd yno ar y noson yn rhad ac am ddim.
Prysor o JMJ a Pandy Tudur Cracar o noson, eto 'leni. Diolch yn fawr Radio Cymru
Sam o Ysbyty Ifan Noson Byth gofiadwy!! Cerddoriaeth gwych, cwrw bendigedig, awyrgylch ffantastig - a fi yn cael bod ar 'Bandit' yn gwneud total ffwl o fy hyn! O wel! Noson da iawn - rol on blwyddyn nesa!
Carwyn Rhys o Bontnewydd Be di pwynt y noson yma? Er mwyn clodfori ma mor wan ydi cerddoriaeth "poblogaidd" Cymraeg, gan fod Hen Ganeuon ar y brig pob blwyddyn. Pa obaith sydd gan y swm bychain o fands talentog Cymru i lwyddo, gan fod y cyfryngau yn benderfynol o dynnu pob gronyn allan o yrfaoedd pobol fel Bryn Fon a Dafydd Iwan. Adlewyrchiad gwael ar ddyfodol cerddoriaeth o'r math.
John Elfed Hughes o Maenan Cefais i noson arbennig o dda. Diolch i Radio Cymru am y noson wych. Roedd y lle efo tua 800 o bobl a roedd o'n arbennig o dda i weld gymaint mewn un lle yn siarad yr iaith Gymreag. Arbennig o dda!
|
 |
|

|