麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerwyn Jones yn ei gadair ar stryd yng Nghaernarfon Cam wrth Gam
Bum mlynedd yn 么l, collodd Cerwyn Jones o Riwlas ger Bangor y defnydd o'r rhan fwyaf o'i gorff ar 么l torri ei wddf mewn damwain feic modur.
Dydy o ddim yn gallu cerdded na defnyddio'i ddwylo ond mae wedi dewis brwydro yn erbyn ei anafiadau a byw bywyd i'r eithaf, gan gynnwys cymryd y cyfle i roi tro ar awyr blymio a sg茂o. Bu'n dweud ei stori wrth 麻豆社 Cymru yn y gyfres, O Flaen Dy Lygaid.

"Dwi'n cofio meddwl tra ro'n i'n gorwedd ar ochr l么n, funudau ar 么l y ddamwain, 'be' uffar dwi wedi ei 'neud?' Ro'n i'n gwybod bo' fi 'di gwneud rhywbeth go siriys.

"Yr unig ffordd o drio dychmygu'r peth ydi bo' ti'n gorwedd yn dy wely wedi clymu dy draed hefo'i gilydd a chlymu dy ddwylo tu 么l dy gefn a thr茂o byw am ddiwrnod cyfan felly - mae'n ddiawledig o beth.

Cerwyn yn awyr blymio"Mi gymerais i benderfyniad ar y pryd yngl欧n 芒 be' ro'n i'n mynd i'w wneud. Naill ai gyrlio i fyny a rhoi'r gorau i bethau neu aros i weld beth fyddai'n digwydd a thr茂o dod drosti. Dewisais i'r ail opsiwn.

"Mae pob sgrap o annibyniaeth yn werth ei gael.

"Dwi 'di bod bron 芒 thorri 'mol isho mynd 'n么l i bysgota a taswn i'n gallu gafael mewn gwialen bysgota fy hun, mi fyddai hynny'n gr锚t. Dwi'n benderfynol o wneud hynny.

"O'n i'n benderfynol o fynd 'n么l i'r gwaith (yn ffatri Dynamex ger Caernarfon).

"Mae gen i broblemau, oes, ond dwi ddim yn s芒l chwaith. Pan o'n i yn yr ysbyty ro'n i'n breuddwydio bob nos bo' fi'n mynd i 'ngwaith, a baswn i'n gwneud shifft gyfan yn fy nghwsg.

"Dwi'n cydnabod na cherdda i byth eto. Dwi'm yn gweld llawer o bwynt i rywun jyst byw mewn gobaith. Gobeithio y bydd yr arbenigwyr yn gallu sortio pethau fel hyn allan yn y dyfodol. Ond dwi wedi derbyn y ffaith na wnawn nhw yn ystod y'n oes i. Mi setla i hefo be sydd gen i a gwneud yn fawr ohoni.

Cerwyn yn sg茂o"Ond, dwi wedi bod yn un sy'n cymryd ambell i risg bob hyn a hyn trwy 'mywyd. Ac alla i ddim gwneud mwy o lanast na dwi wedi 'neud yn barod!"


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy