麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Arloeswyr
Plac er c么f am Morrisiaid M么n
Morrisiaid M么n

Ganwyd: 1700au

Magwyd: Llanfihangel-tre'r-beirdd

Addysg: Cartref


Cyfranwyr i lenyddiaeth Cymru.

Aeth y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam ati i sefydlu Cymdeithas Morrisiaid M么n yn 1997 i ddathlu bywydau'r brodyr, a'u cyfraniad i lenyddiaeth Cymru.

"Teulu digon bach yn tarddu o ogledd ddwyrain M么n oedd y Morrisiaid. Ond gyda'i gilydd, ffurfiwyd un o'r teuluoedd hynotaf 芒 gafodd cenedl Cymry erioed.

Morris Prichard oedd y tad, a'i wraig oedd Marged. Cawsant bump o blant rhwng 1701 a 1713; Lewis, Richard, Wiliam, Elin a 厂颈么苍. Ganed y tri chyntaf yn Llanfihangel-tre'r-beirdd, a'r ddau olaf ym Mhenrhosllugwy, lle cawsant eu magu.

Roedd yr ardal yn un ddiwylliedig, ond hefyd yn un wledig iawn. Byddai'r plant yn cyfeirio at y pentref cyfagos fel 'City Dulas'!

Roeddynt yn byw yn fferm Pentre Eiriannell ac er na chafodd eu rhieni lawer o addysg swyddogol, roedd eu Cymraeg yn bur ar eu gwefusau a'r naill a'r llall efo diddordeb mawr mewn diwylliant. Meithrinwyd y plant ar yr aelwyd a chawsant eu hyfforddi i ddarllen yn gynnar. Gellir dweud iddynt 'yfed eu dysg'; nhw sy wir bia'r ymadrodd yna.

Erbyn bod y meibion yn eu harddegau, roeddynt yn medru rhigymu a llunio englynion ac roeddynt hefyd yn gerddorol, yn chwarae'r delyn, y ffidil, y crwth a'r pibgorn; offerynnau a welid ar yr aelwyd.

Croes fel cofeb i Morrisiaid M么n Roedd ganddynt hefyd ddiddordeb mewn mathamateg, daearyddiaeth, ffosiliau a hanes. Yn y man trefnodd y tri brawd hynaf eu trysorau megis cregyn, cerrig a phethau eraill mewn cwpwrdd arbennig.

Roedd y plant yn gyfarwydd 芒 gwaith y fferm, ond 'doedd y rhieni ddim eisiau i'r meibion fynd i drin y tir achos bod eu brestiau yn gaeth. Ond dysgodd y meibion wrth helpu eu tad, oedd hefyd yn fasnachwr ac yn cludo nwyddau yn ei long.

Lewis
Roedd Lewis yn un aflonydd a dysgedig. Mi ddaru un o dirfeddianwyr mwyaf M么n, Owain Meurig, Bodorgan, ofyn iddo fapio ei holl diroedd. Roedd Lewis 芒'r gallu i feistroli unrhyw bwnc a chyflawnodd y gwaith yma'n gampus.

Yna aeth yn swyddog y doll yng Nghaergybi, swydd a neilltuid fel arfer i'r dosbarth canol breintiedig. Roedd wrth ei fodd, gyda digon o amser hamdden i ddarllen a barddoni, llunio rhyddiaith a throi ymhlith beirdd M么n.

Ond roedd o'n uchelgeisiol a chafodd swydd gan y goron i wneud arolwg o arfordir gorllewin Cymru. Ac yn wir i chi, er llawer o rwystrau, mi ddaru o gyflawni'r gwaith heidrograffig hwnnw ac mae'r ddwy gyfrol o siartiau i'w gweld yn y swyddfa heidrograffig yn Taunton.

Ond 'doedd Lewis ddim yn fodlon gyda hynny. Aeth ati i geisio gwneud ei ffortiwn drwy gloddio am fwynau, fel plwm a sinc. Ond er iddo fuddsoddi cryn dipyn o'i arian, methu ddaru o yn y fenter hon.

Aeth i Aberteifi fel swyddog i'r goron i arolygu cloddio am fwynau ar eu cyfer nhw. Ond daeth sawl un ag achos llys yn ei erbyn yn honni anonestrwydd - er mi ddoth yn rhydd o'r holl helyntion; hynny efallai am ei fod yn adnabod dynion pwerus, gan gynnwys y Prif Weinidog.

Er hyn i gyd, roedd o'n parhau i lunio barddoniaeth, casglu llawysgrifau a llythyru gyda g诺yr dysgedig. Aeth ati hefyd i sefydlu cymdeithas y Cymmrodorion, sy'n dathlu etifeddiaeth Cymru yn Llundain, ac yn parhau hyd heddiw.

Richard Morris
Yn 13 mlwydd oed, cymerodd yn ei ben i fynd ati i gasglu nifer o gerddi ac englynion gan ei ddwy nain, ei rieni a'i gyfoedion. Mae'r llawysgrif a luniwyd ganddo wedi goroesi ac yn un o bethau hynotaf ein hetifeddiaeth lenyddol ni.

Cerfiad ar ben croes er cof am Morrisiaid M么n. Ar 么l meistroli gwaith saer yn ifanc, aeth i Lundain yn 19 mlwydd oed. Bu mewn helbulon a bu yn dlawd iawn ond yn y diwedd cafodd swydd gyda'r llynges. Roedd yn is-lywydd Cymdeithas y Cymmrodorion.


Wiliam
Roedd hwnnw wedi mynd i Lerpwl lle y bu am ddeng mlynedd yn glerc i fasnachwr oedd yn hanu o F么n. Mi ddychwelodd i Gaergybi i weithio gyda Lewis fel swyddog y doll, a hefyd - fel ei frodyr h欧n - casglu hen lawysgrifau Gymreig.

Elin
Er ei bod hi'n ferch ddawnus iawn, nid oedd cyfle iddi wneud mwy na llafurio a gweini ar yr aelwyd.

厂颈么苍
Trodd y mab ieuengaf at y m么r, ar 么l cael blas ar hwylio i Gaernarfon, Lerpwl a Dulyn gyda'i dad. Fe ddaeth yn rhyfel yn erbyn y Sbaenwyr, ac fe aeth ar long i India'r Gorllewin. Ond cyn cyrraedd yr ymladd, bu farw o haint ar Ynys Dominica yn 1740.

Roedd gan y pedwar brawd freuddwydion mawr, ac er ddaru nhw ddim gwireddu pob un, gwnaethant lawer i newid hanes Cymru. Trwy eu gweithgarwch nhw ac eraill, cafodd y traddodiad clasurol ei adfywio oherwydd eu gweledigaeth a'u hymroddiad."

Mae Dafydd Wyn Williams wedi ysgrifennu sawl cyfrol ar fywydau Morrisiaid M么n.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy