麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Bryn F么n
Bryn F么n

Ganwyd: 27 Awst 1954

Magwyd: Llanllyfni

Addysg: Ysgol Gynradd Llanllyfni ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle


Prif leisydd poblogaidd ac actor adnabyddus.

Atebion i'ch cwestiynau chi gan y dyn ein hun...

Wyddech chi?: Ymddangosodd Bryn fel hync y mis yng nghylchgrawn She yn yr 1980au.

Magwyd Bryn F么n ym mhentref Llanllyfni a dechreuodd ganu yn fachgen ifanc yn y capel, yn yr ysgol ac fel aelod o'r Urdd. Astudiodd ymarfer corff ac astudiaethau'r amgylchedd yn y coleg cyn mynd i weithio ar fferm tra'n ceisio cychwyn ar yrfa yn y byd adloniant.

Bryn F么n
Clipiau sain o gyfweliad gyda Bryn F么n am ei ymddangosiad yn noson T芒n y Ddraig yng ng诺yl y Faenol 2007 sy'n dathlu pen-blwydd 麻豆社 Radio Cymru yn 30 oed.
Enillodd ei gerdyn ecwiti hollbwysig pan gymerodd ran yn yr opera roc Dic Penderyn yn 1977. "Roedd o'n 'chydig o fedydd t芒n" meddai Bryn. "Ro'n i mewn theatr newydd, yn canu gyda band mawr am y tro cynta, a'r sioeau i gyd wedi gwerthu allan."

Cafodd gychwyn disglair i'w yrfa ar y sgr卯n fawr pan chwaraeodd gymeriad a wnaeth i Katherine Hepburn gr茂o yn y ffilm The Corn is Green, a gafodd ei ffilmio ym Metws-y-coed ac Ysbyty Ifan.

Aeth ymlaen i actio yn y ffilm gyntaf ar S4C, Y Gosb.

Hywel Morgan oedd y gyfres gyntaf iddo actio'r brif ran ynddi. Roedd rhaid iddo wneud nifer o'r styntiau ei hunan ac roedd yn gyfres eithaf corfforol. Ond fel un oedd wedi astudio ymarfer corff, fe wnaeth fwynhau'r marchogaeth a'r holl waith caled roedd rhaid iddo'i wneud.

Ond mae Bryn F么n hefyd yn enwog fel canwr. Ffurfiodd y gr诺p Crysbas ar 么l gadael y Coleg a nhw oedd y band cyntaf i ganu'n fyw ar 麻豆社 Radio Cymru pan gychwynnodd y gwasanaeth hwnnw yn 1977.

Ffurfiodd Sobin a'r Smaeliaid yn 1988 ac enillodd y band gystadleuaeth C芒n i Gymru ddwywaith.

Rhwng 1989 a 1993 rhyddhaodd y band 5 record hir.

Bellach mae Bryn wedi hen arfer perfformio i filoedd o ddilynwyr mewn digwyddiadau fel G诺yl y Faenol a'r Eisteddfod gyda Bryn F么n a'r Band, a sefydlwyd yn 1993.

Er hynny, mae'n dweud fod ei nerfau wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.

"Fel yr enw ar dop y bil, ganddoch chi mae'r cyfrifoldeb o sicrhau fod pawb yn gyrru adref wedi cael noson dda", meddai Bryn. "Mae gorfod wynebu dros 3,000 o bobl yn gwneud i mi deimlo'n nerfus iawn, ond ar 么l cychwyn canu, mae popeth yn dod yn iawn eto."

Mae'r band wedi rhyddhau dwy albwm gyda Sain, Dyddiau Di-gymar (1994) a Dawnsio ar y Dibyn (1998) a dwy albwm ar eu label eu hunain, Label Abel - Abacus (2004) a CAM (2005).

Mae wedi parhau 芒'i waith fel actor ac fe wnaeth argraff yn ei bortread o Les yn y gyfres Talcen Caled ar S4C - cymeriad y gwnaeth ei chwarae am y tro cyntaf ar y llwyfan, flynyddoedd yn 么l.

Mae Bryn yn briod ag Anna ac yn byw gyda'i deulu yn Llanllyfni.

Meddai: "Dwi'n lwcus 'mod i'n gallu fforddio dod n么l i fyw o fewn milltir i ble ces i fy magu. Ar 么l byw i ffwrdd, dwi'n teimlo ei bod hi'n bwysig dod n么l a dwi'n lwcus i gael gyrfa sy'n caniat谩u imi wneud hynny."

Yn 2007, Bryn F么n a'r Band yw prif artist noson T芒n y Ddraig yn y Faenol, sy'n dathlu pen-blwydd Radio Cymru yn 30 oed.


Cyfrannwch

Karl Bohana, Caernarfon
Wedi cael braint o rhannu llwyfan gyda Bryn Fon, yn Galeri, Caernarfon ar y 21/2/09. Ac wedi mwynhau bob eiliad, diolch i Bryn a'r band am fod mor groesawgar ac am eu holl amynedd

Rhys C o Fethesda
Dwi'n meddwl mai Toca di bod n success. Ok, dio'm yn compario i albums Dyddia di gymar a Dawnsio ar y Dibyn, ac un ne ddau o albums Sobin, ond dwi'n meddwl mae o lot well na Cam de. Hefyd ma Toca'n wahanol i stwff erill, sy'n beth da rili.

Rob o Brithdir
Dim ond isho deud gair bach i dweud faint dwi yn eich caru, ac eich caneuon, methyu aros i weld chi yn sesiwn fawr blwyddyn yma !

Rhys Sir Fon
Mae geiriau toca yn gwneud abacus swnio fel Bob Dylan.mae Lyrics dim mynadd, y gan gymraeg ac asado ar y paith yn dorcalonus o blentynaidd. mae hi'n anodd credu fod Bryn fon yn gallu meddwl fod Cymru angen clywed y fath rwtsh.

Karl Bohana, Caernarfon
Be allai dd'eud? Mond diolch unwaith eto i'r hogia am album ffantastic arall. Rwyf yn hoff iawn o TOCA, er dweud hynny, nid oeddwn yn disgwl dim byd arall gan y cantor gora o Gymru. Ogi ogi ogi

Mai o Porthaethwy
Dwi wrth fy modd hefo Gaeth i Ti - mae o'n lovely o g芒n a dwi yn dod i Tan y Ddraig a faswn ni yn licio i chdi ei chanu hi i FI - a bawb sydd yn hoffi hi. A Cofio Dy Wyneb -Abucus - Rebal Wicend - bob tro dwi yn mynd i Benllech, oherwydd dwi'n byw 5 milltir i ffwrdd dwi yn mynd i shopio i Benllach, mae o yn weddol neis cos ti canu yn y car.

Sophie Dymore
Hello. Rwyf wedi gwirioni efo can Abacus dwi yn gwrano arna fo rwan a chwilio am y geiria lolz traz xx

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:

Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.

Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Cyfeiriad ebost (dewisol):

Sylw:

Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy