麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Priodas Doris, o cartref Bryn yr Eglwys, Pentrefoelas Hel atgofion
Mae diwrnod o hwyl a hanes yn rhan bwysig o galendr blynyddol cartref nyrsio Bryn Eglwys, Pentrefoelas, erbyn hyn. Dyma'r nyrs Carys Evans i s么n am yr arddangosfa ddiweddaraf.

"Mae'n draddodiad yng nghartref Bryn yr Eglwys, Pentrefoelas, i greu arddangosfa bob blwyddyn. Dechreuodd dair blynedd yn 么l pan ddarllenais ddarn yn y papur am hanes Cwm Tryweryn. Roedd rhai o'r preswylwyr yma yn d诺ad o'r ardal gafodd ei boddi felly es i chwilio am ychydig o luniau fel testun sgwrs, ond aeth y peth yn fwy a mwy a ches gymaint o ddiddordeb, mi gr毛ais arddangosfa fach.

"Mae'n ffordd andros o dda o gadw meddwl y bobl yma yn heini ac yn ifanc, ac mae'n rhoi syniad i ni, y gweithwyr yma, o'r profiadau amrywiol maen nhw wedi eu cael. Mae clywed eu hanes yn rhoi syniad i ni o pam eu bod nhw fel maen nhw fel pobl.

"Mae'n ffordd dda hefyd o gael y gymuned i mewn i'r cartref, a'i wneud yn rhan o'r gymuned gan y gall fod yn lle caeedig iawn.

"Y flwyddyn ddiwethaf, roedd yr arddangosfa am y gwaith arlunio a gweithgareddau eraill roedd y preswylwyr wedi bod yn rhan ohonyn nhw.

Fasiwn adeg y rhyfel Penderfynais wneud rhywbeth am yr Ail Ryfel Byd eleni gan ein bod yn dathlu 60 mlynedd ers iddo orffen. Mae tri chwarter y preswylwyr yma yn ferched ac roeddwn yn gwybod ychydig am waith merched yn ystod y rhyfel felly penderfynais ganolbwyntio ar hynny, yn arbennig ar Fyddin Tir y Merched.

"Ond wrth ymchwilio gwelais faint oedd merched wedi ei wneud yn ystod y rhyfel y tu hwnt i ffermio felly mi wnes i ehangu'r arddangosfa ychydig.

"Creais hefyd ddarn am ffasiwn - roedden nhw'n gwisgo lot o ffwr rownd eu gyddfau a llwyddais i ffeindio ffwr llwynog, sn诺d (rhwyd gwallt), ffrog a nicers mawr!

Bwyd adeg y rhyfel "'Da ni hefyd wedi dod o hyd i enghreifftiau o bethau roeddent yn eu defnyddio yn y cartref fel hen dun Oxo, tun o laeth sych, hen haearn smwddio a llyfr dogn.

"Ddaru ni wahodd teuluoedd a ffrindiau'r preswylwyr i mewn am tea dance a brechdanau sbam a chael lot fawr o hwyl.

"'Da ni wedi darganfod gymaint am y preswylwyr wrth i'r arddangosfa eu hatgoffa o bethau gwahanol. Dywedodd un o'r merched yma ei bod wedi bod yn briod am ddim ond ychydig o wythnosau cyn i'w 诺r orfod mynd i Burma, a chafodd ei ladd yna. Mae 'na lot o drasiedi wedi bod yn eu bywydau a doeddent heb s么n amdano wrthym tan r诺an.

"Mae gennym ni ddynes arall yma oedd yn briod ar y dydd Mawrth, cyn i'w g诺r fynd i ffwrdd dros y m么r ar y dydd Gwener a welodd hi ddim ohono am bum mlynedd wedyn - ac am bedair o'r rheina roedd hi'n meddwl ei fod o wedi cael ei ladd gan ei bod wedi cael telegram yn dweud hynny.

"Y flwyddyn nesaf, rydym am greu arddangosfa am nyrsio dros y blynyddoedd - dwi'n cychwyn ymchwilio yn barod!"

Atgofion Myfanwy...

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy