麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Castell Deudraeth
Oes yna wir gastell coll ger pentref Portmeirion? Yr archeolegwr Louise Barker fu'n ymchwilio ym mhellach.
Safle Castell Deudraeth.  漏 Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae'r stori yn dyddio yn 么l i 1188. Wrth iddo deithio drwy Gymru, nododd Gerallt Gymro gastell yn yr ardal yma, sef Castell Deudraeth. Caiff hefyd ei hadnabod fel Castell Aber Ia.

Mae'r enw Deudraeth yn gwneud synnwyr topograffaidd gyda Phortmeirion heddiw, gan fod yna Westy Deudraeth hefyd. Ond am flynyddoedd, nid oedd neb yn si诺r o gwbwl ym mhle ar dir Portmeirion oedd Castell Deudraeth gan fod y tir wedi newid cymaint dros y blynyddoedd. Byddai rhan fwyaf o olion y castell wedi eu colli o fewn y goedwig.

Felly, roedd yn rhaid i mi gychwyn wrth edrych drwy ddogfennau ar y pwnc, ac mi wnes i ddod ar draws nodyn am un lleoliad yn arbennig. Ac mae'r lleoliad yma yn un gwych ar gyfer castell; ar ben craig, uwchben y foryd.

Mae yna ff么s wedi ei thorri i fewn i graig y tu 么l i leoliad y castell, er mwyn ei amddiffyn. Mae yna hefyd olion waliau cerrig wedi eu hadeiladu ar draws y llethrau.

Byddai'r castell wedi sefyll mewn cyfnod diddorol iawn yn hanes Gwynedd, ar 么l marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170. Roedd yna lot o ymladd rhwng ei feibion. Ddaru nhw fynd ati i wahanu'r ardal ym mhlith eu gilydd, gan fynd ati i adeiladu cestyll cerrig fel symbol o'u p诺er ac i'w gwarchod rhag ymosodiadau. Er nid oes llawer ar 么l o'r cestyll cynnar yma, ddaru nhw arwain y ffordd ar gyfer cestyll eraill Cymreig, fel Dolwyddelan a Chastell y Bere.

Mae yna s么n go bendant am dd诺r ar y safle yma; mae'n bosib fod yna lun ohono, ond cafodd ei ddinistrio mewn t芒n ym Mhortmeirion. Cafodd y t诺r ei ddymchwel yn y bedwaredd ganrif ar bumtheg gan denant o'r st芒d, ond caiff y graig lle safodd y t诺r ei hadnabod fel Craig y Castell.

Mae yna dal drafodaeth os mai hwn oedd wir leoliad hen Gastell Deudraeth, ond dwi'n sicr fod rhyw fath o amddiffynfa wedi bod yma a dwi'n si诺r am hwn yr oedd Gerallt Gymru yn s么n.

Efallai nad oes llawer i chi weld wrth fynd i'r lleoliad yma, ond mae'n hawdd dychmygu sut y byddai castell wedi edrych, ar ben y graig ger y m么r. Mae Portmeirion yn lle poblogaidd iawn, er nid yw llawer yn meddwl am yr hanes yn yr ardal fach yma cyn adeiladu'r pentref.

Louise Barker o'r Comisiwn Frenhinol Henebion Cymru.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy