麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plentyn yn gwisgo masg nwy Trwy ll'gadau plant
Cafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Llandwrog flas ar fywyd adeg y rhyfel ar ymweliad ag Archifdy Caernarfon. Beth wnaethon nhw ei ddysgu am y cyfnod tybed?

Bywyd yn Llandwrog
Dion: "Doedd na'm gymaint o fomio fan hyn. Roedd 'na efaciw卯s wedi dod o Lerpwl, ac roedd y bobl leol yn yr home guard."

Alys: "Ddaru'r mountain rescue cyntaf gychwyn yn Llandwrog achos roedd 'na awyrennau yn dysgu dros Eryri ac felly roedd yn rhaid mynd i'w hachub nhw os oedden nhw yn cael damwain. Ddaru ni fynd i'r maes awyr yn Dinas Dinlle a ddaru ni weld awyrennau a phethau'r mountain rescue, a'r Vampire, awyren o adeg y rhyfel."

Dion: "Roedd y masg nwy yn r卯li tyn ac yn drewi ac yn drwm. Dwi wedi dysgu heddiw na faswn i ddim wedi hoffi wedi bod yn y rhyfel gan y byddai wedi bod ychydig yn ofnus. Mi faswn i wedi hoffi byw mewn lle saffach."

Tamaid o fwyd
Catrin: "Mi ddaru ni goginio sgons tatws yn yr ysgol - roedden nhw'n afiach! Yn lle cyraints, roedd 'na lard a tatws! Ar 么l bwyta un, roedden ni'n cael poen bol anferth!

Roeddech chi'n rhoi'r tatws yng gwaelod y powlen, eu mashio nhw a rhoi'r lard i mewn, efo powdwr pobi, llefrith - a rhywbeth arall. Roeddent yn 'ogla'n neis, ond yn blasu'n afiach!

Roedd yn anodd cael cacen siocled adeg y rhyfel, fyswn i ddim wedi gallu byw!

A doedden nhw erioed wedi gweld banana, ac mi wnaeth rhywun fwyta croen y banana unwaith."

Rhys: "Mi faswn i wedi methu siocled hefyd!

Ar ffilm welson ni, ddaru ni ddysgu bod plant yn bwyta pen mochyn, ac yna galw'r pen ar 么l eu hathro ysgol! Cocsio mai'r prifathro oedd o!"

Holi nain a taid
Alys: "Roedd fy nain i yn sheltro un noson pan syrthiodd bom ar y stryd, ond wnaeth o ddim ffrwydro. Roedd yn rhaid iddyn nhw ffoi i lawr y ffordd."

Eitemau yn ymwneud a'r Ail Rhyfel Byd

Catrin: "Roedd fy nain i yn gweithio yn yr ysbyty yn Aberystwyth ac roedd fy nhaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf."

Lois: "Roedd fy nhaid i yn filwr, a chafodd ei ddal ac aeth yn garcharor a chafodd y Burma Star pan ddaeth adref."

Rhys: "Mi wnes i ffeindio allan am nain yn cael pres yn ystod y rhyfel wrth gadw lojars. Gafodd hi ddau o'r banc yn byw efo hi yn y t欧 ym Mhenygroes."

Gruffydd: "Es i ofyn i fy hen nain ac roedd hi'n 32 yn y rhyfel, mae hi r诺an yn 93. Roedd hi'n gorfod edrych ar 么l ei phlant a gweithio ar y fferm gan mai nid nhw oedd bia'r t欧 - a roedd yn rhaid iddyn nhw rannu eu t欧 efo pobl eraill.

Cafodd Penygroes ei fomio yn y rhyfel. Ddaru'r bom ddisgyn ar y traeth - dwi'n meddwl eu bod nhw wedi lluchio'r bom ar 么l dod n么l o Lerpwl gan fod na un ar 么l. Chafodd neb ei ladd. Ond roedd fy nhaid yn babi ar y pryd - ddaru'r bom ollwng, a'r gwydr yn y t欧 dorri a ddaru fy hen nain redeg i fyny'r grisiau i weld os oedd fy nhaid yn iawn ond roedd o'n cysgu yn ei grud!" Ymweliad Eluned
Dion: "Ddaru Eluned Gyles ddod i siarad efo ni am y rhyfel. Roedd hi'n byw yn Llanllyfni adeg y rhyfel a ddaru hi ddweud wrthon ni am bob dim am ei bywyd pan oedd yn fach. Ddaru hi weld dog fight rhwng awyrennau yn yr awyr uwch ben yr eglwys. Roedden nhw'n hedfan at y mynyddoedd a daeth pawb allan o'r ysgol i weld beth oedd yn digwydd a gweld y ffeit."

Gruffydd: "Unwaith ddaru hi weld swastika ar awyren, roedd o mor isel."

Rhys: "Ddaru hi s么n hefyd am y capel, ac am yr efaciw卯s oedd yn gorfod dysgu Cymraeg ac yn dysgu geiriau drwg fel 'tin buwch'! I ddechrau doedd yr efaciw卯s a phlant y pentref ddim yn ffrindiau, ond ar 么l 'chydig daethant yn ffrindiau. Doedden nhw ddim yn gwybod yr iaith, ond wedyn ddaru nhw ddysgu'r plant i siarad Cymraeg a'r efaciw卯s eu dysgu nhw sut i siarad Saesneg."

A beth am y dyfodol?
Pawb: "'Da iawn i bawb wnaeth ymladd yn y rhyfel. Roedden nhw'n ddewr iawn."

Roedd pawb yn gyt没n ein bod yn ffrindiau efo'r Almaen r诺an, os nad ydynt yn gwneud dim byd gwirion eto, ac yn sicrhau eu bod yn:

  • Ffeind i'r Iddewon
  • Yn garedig ac yn ffrindiau efo pawb
  • Ddim yn dewis arweinydd efo mwstash.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy