麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberdaron
Christine Evans Bywyd ar Enlli
Sut daeth merch o Swydd Efrog i fyw ar Ynys Enlli? Dyma hanes y bardd Christine Evans, o Enlli (yn yr haf) ac Aberdaron (yn y gaeaf).

Mi ges i fy ngeni yn Swydd Efrog, yng ngwlad y Bront毛s. Mae'r rhosydd i fyny fa'na yr un mor oer a gwyntog a maen nhw'n ei ddweud yn y llyfrau!

Ond roedd fy nhad yn dod o Bwllheli, a dwi newydd ddarganfod fod fy nain wedi cael ei magu yna hefyd. Felly mae gen i fwy o gysylltiad efo Pen Ll欧n nag oeddwn yn ei wybod.

Roeddwn yn gallu siarad ychydig o Gymraeg fel plentyn - wel, y tri gair ddaru nain ei ddysgu i mi, sef 'gwely', 'cariad' a 'cwsg'.

Ond doeddwn i ddim wedi bod i Bwllheli o gwbl tan i dad farw. Wedyn, gan fod gen i frawd a chwaer ieuengach a mam oedd yn s芒l, mi benderfynais mai fy nyletswydd i oedd edrych ar 么l y teulu.

Mi welodd mam hysbyseb am swydd dysgu yn yr ysgol ramadeg ym Mhwllheli. Wnes i 'mond tr茂o am y swydd i blesio mam, a gan fod dad wedi dod o'r ardal - ro'n i'n credu y byddwn yn llwyddiannus!

Ar 么l mynd i'r coleg yn Exeter roeddwn wedi dysgu yn Llundain am gyfnod ac felly roedd Pwllheli yn ymddangos ryw dair blynedd y tu 么l i bethau, yn enwedig y ffasiwn. Ond roedd yn bleser dysgu'r plant yna ac roedd gan y rhieni gymaint mwy o ddiddordeb a pharch at addysg yng Nghymru. Cefais fy nghyflwyno fel 'yr athrawes Saesneg o Lundain' - dramatig iawn!

Roeddwn wedi bwriadu aros am ddwy flynedd yn unig, gan fy mod wedi gohirio swydd fel gwirfoddolwyr tramor. Ond o fewn y ddwy flynedd, roeddwn yn briod!

Mi es i draw i Ynys Enlli a chyfarfod Ernest, mab i Wil Evans - neu Wil T欧 Pella - ffermwr o'r ynys. Mae Ernest yn gallu olrhain hanes ei deulu ar yr ynys yn 么l i'r 1770au a fo oedd y plentyn olaf i gael ei addysg yn ysgol Enlli.

Mae Ernest yn bysgotwr ac yn trwsio cychod, fel ein mab, Colin.

Ymwelwyr yn glanio ar Ynys Enlli Felly dwi wedi byw yn Aberdaron neu ar Enlli ers y 1060au - dydyn ni ddim yn byw ar yr ynys trwy'r flwyddyn. Mi fyddai'n anodd, yn enwedig i fy ng诺r, byw heb wres canolog, teledu a ff么n dibynadwy yn ystod y gaeaf!

Mae'n rhaid i ni gerdded i ben yr allt uchaf ar yr ynys i gael signal ff么n, neu ddibynnu ar ff么n yn y t欧 sydd wedi ei gysylltu i drosglwyddydd ar dop yr allt gan weiren hir. Os nad oes digon o egni yn y generadur, sy'n cael ei bweru gan yr haul, bydd y ff么n yn dechrau peidio 芒 gweithio. Mi faswn i'n hoffi cael generadur gwynt ar yr ynys ond mae'n rhaid cael hawliau cynllunio yn gyntaf.

Dydyn ni ddim yn gallu cysylltu 芒'r we ar yr ynys chwaith - felly os oes gan unrhyw un syniadau am sut gawn ni gysylltu 芒'r we, heb gyflenwad parhaol o egni, dywedwch! Byddai'n wych, yn enwedig i fab bach y warden adar.

Mae'n rhaid i chi fod yn drefnus iawn i fyw ar ynys mor fach. Mae gen i ardd lysiau go dda erbyn hyn ond dydyn ni ddim yn gwneud pethau fel menyn ein hunain, fel y byddai mam Ernest. Felly, mae'n rhaid gwneud rhestr siopa hir i sicrhau fod gandon ni bethau fel te a choffi, sudd oren a siwgr.

Goleudy Enlli Rydym wedi cael ein dal allan gan y tywydd sawl gwaith hefyd. Roeddwn yn hwyr mynd yn 么l i'r ysgol ddwywaith yn y 60au. Yr adeg honno, pan roedd dyn yn edrych ar 么l y goleudy, roedd yn rhaid i mi anfon telegram trwy'r radio telegraph - wnes i byth glywed ei diwedd hi yn yr ysgol!

Rydym yn dod yn 么l i Uwch Mynydd, Aberdaron, pan ddaw'r tymor pysgota i ben yn yr hydref. Mi roeddwn yn gwneud ychydig o ddysgu yn y gaeaf ac erbyn hyn, er fy mod i wedi ymddeol, dwi'n dal i ddysgu ysgrifennu creadigol a darllen fy marddoniaeth.

Mae Aberdaron yn lle distawach yn y gaeaf na'r ynys yn yr haf. Mae 'na saith ffarm neu fwthyn ar Enlli i bobl aros a chan fod nifer fawr yn dod yn 么l dro ar 么l tro, mae pawb wastad yn galw draw am baned. Mae o fel cael teulu estynedig.

Enlli yn ysbrydoliaeth i farddoniaeth Christine...

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Lluniau
Natur


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy