Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberdaron
Eileen, Lorna and Honora Keating Y plas a'r gerddi
Dyma Mary Thomas, ceidwad Plas yn Rhiw, nid nepell o Aberdaron, i roi cipolwg ar hanes yr hen dÅ· a'r gerddi a achubwyd gan dair chwaer o Nottingham ac sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
"Mae un rhan o'r tÅ· yn dyddio o tua 1530, ond cafodd ei ymestyn yn 1634, 1820 a 1850.

"Cyn belled ag y gwyddon ni, dim ond tri teulu sydd wedi byw ym Mhlas yn Rhiw - y Lewisiaid a'r Robertsiaid, teuluoedd bonheddig lleol, ac yna roedd y tÅ· yn wag am 20 mlynedd cyn cael ei brynu gan dair chwaer, y Keatings o Nottingham, yn 1939.

"Roedd dipyn o olwg ar y tŷ pan gafodd ei brynu gan y chwiorydd. Y prif reswm iddyn nhw brynu'r tŷ oedd i ddiogelu'r goedwig fach ger y tŷ. Roedd y merched yn dipyn o gadwraethwyr. Roedd rhywun arall oedd â diddordeb mewn prynu'r tŷ yn bwriadu torri'r coed i lawr - roedd angen mawr am goed yn yr ardal yn ystod y rhyfel.

TÅ· Plas yn Rhiw "Aeth un o'r chwiorydd i astudio celf yn Llundain, lle daeth yn ffrindiau efo Cymraes. Aeth ar ei gwyliau i Ben LlÅ·n a pherswadio gweddill y teulu i ddod hefyd - ac yna prynu'r tÅ·.

"Cafodd ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth yn y 1950au, er fod un o'r chwiorydd yn dal i fyw yma hyd 1989.

"Dwi'n dod o Rhiw ac yn cofio'r chwiorydd yn iawn. Roeddent yn cymryd rhan yn y gymuned - yn y WI a'r eglwys a gyda gwaith cadwraeth. 'Dwn i ddim os oedd pobl leol yn cytuno efo nhw bob tro ond erbyn heddiw, mae pobl yn gallu deall eu safbwynt yn well.

"Heddiw, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dangos y tÅ· fel yr oedd pan roedd y chwiorydd yn byw yma. Mae eu dodrefn, dillad, papurau a chelfi i'w gweld yn 'stafelloedd gwahanol.

"Mae'r dodrefn yn dod o nifer o gyfnodau gwahanol - lot ohonynt o'u tÅ· yn Nottingham, ond daw rhai eraill o ocsiynau ar ffermydd lleol.

"Mae gwaith dyfrliw un o'r chwiorydd yma hefyd. Er iddi orfod rhoi'r gorau i'w chwrs celf yn Llundain oherwydd y rhyfel - a gweithio fel nyrs - parhaodd i arlunio ym Mhlas yn Rhiw.

"Mae yna ardd fendigedig yma hefyd. Mae'n gysgodol iawn, gan ei fod yng nghysgod Mynydd y Rhiw a choedwig fach a'i bod yn wynebu'r de ddwyrain ac felly'n cael lot o haul.

"Mae nifer o blanhigion eithaf 'tendar' yma felly - mae rhywbeth i'w weld trwy'r flwyddyn. Yr eirlysiau yn y gwanwyn, clychau'r gog yn yr haf - mae wastad lot o liw yma.

Gerddi gwyllt Plas yn Rhiw "Er bod y gerddi yn rhai eithaf gwyllt yr olwg, mae'n cymryd lot o waith i ofalu amdanynt. Mae chwarter milltir o lwyni bocs i'w gadw'n dwt! Ar y funud, mae gennym ni un garddwr amser-llawn, un rhan amser a chriw bach o wirfoddolwyr.

"Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu yn y tÅ· a'r ardd, stiwardiaid i gadw golwg ar y 'stafelloedd pan fo'r tÅ· ar agor, ac i weithio yn yr ardd trwy'r flwyddyn yn achlysurol.

"Ffoniwch 01758 780219 am fwy o wybodaeth.

"Mae'r tŷ ar agor o'r Pasg tan ddiwedd Hydref. Rydym wedyn yn glanhau popeth yn y tŷ yn ofalus iawn. Mae'n rhaid gorchuddio'r dodrefn gyda dust sheets neu bacio pethau mân mewn bocsys a'u cadw am y gaeaf. Mae'n cymryd rhyw fis i wneud hyn i gyd!

"Mae'r gerddi yn agor am un penwythnos yn Ionawr/Chwefror i bobl gael gweld yr eirlysiau. Ffoniwch fis Ionawr i weld pryd yn union rydym yn agor y gerddi, gan fod y dyddiad yn dibynnu ar y tymhorau wrth gwrs."

Mary Thomas


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Lluniau
Natur


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý