麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Huw Williams Cofio'r hen ffordd
Efallai fod Huw Williams o Amlwch wedi gorfod gadael y fferm deuluol i fynd i weithio, ond arhosodd blas y pridd yn ei waed.

"Cefais fy ngeni a fy magu ar Fferm Teilia, ond doedd hi ddim yn ddigon mawr i fy nghynnal i a fy nhad, felly bu'n rhaid i mi fynd i weithio ar fferm arall. Roeddwn yno tan 1956 nes i mi ymuno ag Octel yn Amlwch i gael mwy o bres. Ffatri creu bromin o'r m么r oedd o. Roeddan nhw'n arfer rhoi gwaith i dros 150 o bobl ond mae wedi cau erbyn hyn - bechod mawr. Roedd yn lle da i mi ac mi gefais lot mwy o bres nag oedd ar gael ar y ffermydd.

Ond dwi'n dal yn hoffi ffermio. Dwi'n aelod o Gymdeithas Dyrnu yr ardal ac mi fyddwn ni'n cynnal diwrnod dyrnu unwaith y flwyddyn ym mis Medi. Mi fyddwn ni'n aredig y cae, ei hau efo ceirch yna'i dorri efo hen feindar. Ar 么l torri'r 欧d, 'da ni'n ei gario fo mewn i wneud 'daish' ac wedyn yn mynd 芒 hwnnw i'r dyrnwr a'i 'thrasio' fo. Mi fydd gwellt yn dod allan un pen a'r grawn yn dod allan yr ochr arall.

Mae'r holl offer 'da ni'n ei ddefnyddio yn hen a 'da ni'n mynd i sioeau bach, yn dangos i bobl sut oedden nhw'n dyrnu yn yr hen ddyddiau.

Cystadleuaeth aredigDwi hefyd yn perthyn i Gymdeithas Aredig Ynys M么n. Fis Medi 2005, rydan ni'n cynnal pencampwriaeth aredig Cymru gyfan yn Sir F么n - dydyn nhw erioed wedi bod yma o'r blaen a 'da ni'n edrych mlaen. Mi fydd yn cael ei gynnal yn St芒d Bodorgan, ac mi fydd y rhai sy'n ennill yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y byd.

Mae ganddon ni sawl tractor - y Ffyrgi Bach, sef y Ferguson T20 o 1951, y Ffortiwn Bach, sef y Fortune N o 1941 a'r Massey 35 o 1958.

Y fi a'r mab sy'n edrych ar eu holau nhw. Mae'n rhaid i ni fod yn chydig o bopeth, gan gynnwys mecanics! Mae fy mab yn gweithio yn y Mynydd Gwefru yn Llanberis ac mae o wrth ei fodd yn chwarae efo'r tractors - a chwarae ydan ni!

Ddaru ni redeg dau Ferguson o Sir F么n i Coventry ar hyd hen ffyrdd fel yr A5 adeg clwy'r traed a'r genau. Doedden ni methu cynnal diwrnod dyrnu nac aredig felly ddaru ni benderfynu mynd ar great run i Coventry i dynnu sylw at beth oedd yn digwydd ar Ynys M么n a chael lot o hwyl ar y ffordd. Dyma'r unig ddau hen dractor i wneud y siwrne i Coventry ac mi gawsant groeso mawr yn y gweithfeydd tractor yno ar Banner Lane. Mae'r gweithfeydd wedi cael eu chwalu erbyn hyn - maen nhw'n gwneud y tractors yn India r诺an, Coventry ddim yn ddigon da mae'n rhaid.

Ddaru ni gasglu 拢5,000 ar gyfer T欧 Gobaith yng Nghonwy hefyd wrth yrru i Lanfair ym Muallt ac yn 么l yn yr hen Ferguson - lot o hwyl.

'Da ni'n tr茂o hudo hogia ifanc a merched hefyd i ddod i aredig. Maen nhw'n dechrau cymryd diddordeb ac yn d诺ad yn ara' deg."

Cynhelir pencampwriaeth Cymdeithas Aredig Cymru ym Modorgan ar 25 Medi, 2005. Am ragor o fanylion, cysylltwch 芒 Peter Guthrie, ar 01982 553683.

Cyfrannwch

David Williams llanfairpwll
well done dad xx

Rachelle Williams, Bangor
Well done Daidie x


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy