Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blaenau Ffestiniog
Dyluniad o sut gallai'r neuadd edrych Cynllun Neuadd y Farchnad
Mae gobaith y gellir troi hen Neuadd y Farchnad yn y Blaenau yn ganolfan gelfyddydol lewyrchus a fydd yn gwasanaethu'r gymuned gyfan.
Ers mis Hydref 2004 mae cwmni o benseiri wedi bod yn gweithio ar ddyluniad i'r adeilad a fydd yn ei gweddnewid yn ganolfan ar gyfer adloniant, addysg a'r celfyddydau - gwahoddir y cyhoedd i ddod i weld eu cyflwyniad terfynol ar 2 Ebrill rhwng 11 y bore a 2 y prynhawn yn Neuadd y Farchnad.

Fe gawson nhw eu comisiynu gan yr elusen leol, Menter y Moelwyn, sydd yng ngofal y prosiect. Mae'r Fenter wedi cael cymorth ariannol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac Undeb Ewrop i ariannu cam cyntaf y prosiect. Hefyd mae cwmni McAlpines, sydd yn rhedeg Chwareli yr Oakeley a Chwt y Bugail, hefyd wedi addo £30,000 i'r prosiect os yw'n mynd rhagddo a chafwyd addewid o £4,000 gan Gyngor Tref Ffestiniog.

Criw Ffatri Jam: Robi Buckley, Gai Toms, Ywain Gwynedd, Alwyn Evans, Owain Jones, Leah Pitts, Lowri Cunnington, Sam Buckley.Ond mae gwaith y penseiri'n awgrymu y gallai'r prosiect adeiladu gostio cymaint â £3.2 miliwn a bydd angen i'r fenter godi mwy o bres eto er mwyn gallu gwneud cais am arian cyfatebol Amcan 1.

Dechreuodd yr ymgyrch i ddatblygu'r neuadd yn 2003 ac mae pobl ifanc yr ardal wedi bod yn flaenllaw iawn yn y gwaith.

Gosodwyd baner 20 troedfedd ar yr hen neuadd ar ddydd Gŵyl Dewi 2004 gan griw o bobl ifanc o'r dref sy'n galw eu hunain yn Ffatri Jam.

Maen nhw am i'r neuadd gael ei datblygu yn ganolfan ar gyfer cerddoriaeth, y celfyddydau ac addysg a fyddai'n cynnwys stiwdio recordio, cerddoriaeth fyw, gwe-gaffe, dosbarthiadau addysg i oedolion a bingo.

"Fel pobl ifainc sy'n dod o'r Blaenau, mae'r dref yn golygu lot inni," meddai Leah Pitts, aelod o Ffatri Jam.

"Mae'n dref sy'n gyfoethog yn ei hanes, ac mae Neuadd y Farchnad yn rhan o hanes y Blaenau. Mi fuasen ni'n licio gweld y Neuadd yn cael ei hadfer fel bod yna bwrpas iddi hi unwaith eto."

Sefydlwyd Ffatri Jam yn 2003 i roi llais i bobl ifanc leol sydd eisiau bod yn rhan o brosiect Neuadd y Farchnad.

Dewiswyd yr enw am ddau reswm: mae'n awgrymu'r math o weithgaredd cerddorol anffurfiol y mae'r bobl ifanc am ei weld yn y Neuadd a hefyd, bu'r adeilad yn cynhyrchu jam, yn llythrennol, ar un adeg!Logo Ffatri Jam

Yn ôl yr aelodau, mae'r logo, sy'n dangos potyn jam yn ffrwydro, yn cynrychioli "ffrwydriad o greadigrwydd ifanc yn torri allan o'r hen adeilad".

Ychwanegodd Leah Pitts: "'Dan ni'n teimlo bod angen canolfan fel hyn sydd ar agor i bawb. 'Dan ni'n trïo denu cefnogaeth ac aelodau."

Dywedodd Eifion Williams, Cadeirydd Menter y Moelwyn: "Mae brwdfrydedd y bobl ifainc yma sydd yn aelodau o Ffatri Jam, yn ogystal â llwyddiant y digwyddiad Diwrnod y Bobl wnaethon ni ei drefnu ddwy flynedd yn ôl ac arddangosfa wych David Nash cyn hynny, yn dangos yn glir beth yw potensial y prosiect."



Straeon Digidol
Trefi
Ffilmiau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý