Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bws Cymunedol

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llun o'r bws gan Sion Jones, Ysgol Pendalar Hysbys ar y lôn
Mae bws Âé¶¹Éç Cymru wedi cychwyn ar ei daith ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru gyda'r nod o fynd â thechnoleg a chyfleoedd dysgu i galon cymunedau gogledd Cymru.
Cafodd y bws ei lansio yn swyddogol ddydd Mawrth, 26 Ebrill yn Galeri, Caernarfon, lle cafodd enillwyr cystadleuaeth arlunio ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd lleol eu cyhoeddi.

Y prif enillydd oedd Sion o Ysgol Pendalar, a gafodd ei ddewis i dorri'r ruban i agor y bws yn swyddogol.

Yn ogystal â chynnig cefnogaeth a chyfle i bobl ddefnyddio technoleg gwybodaeth newydd bydd y bws yn cynnig cyfleusterau darlledu a bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn llu o weithgareddau a digwyddiadau.

Sion Jones yn torri'r rhuban gyda'r Athro Gareth Roberts o'r Brifysgol, Keith Jones o'r Âé¶¹Éç a Meri Huws o Fwrdd yr IaithUn o brif amcanion y bws yw dod â'r Âé¶¹Éç yn agosach at y cymunedau lle rydych chi'n byw.

Os ydych chi am gyfrannu i wefan Lleol, er enghraifft, mae'r cyfrifiaduron sydd ar y bws yn eich helpu chi i wneud hynny, yn ogystal ag offer fel sganwyr a chamerâu digidol.

Yn ogystal â bod yn ganolfan lle gall pobl ddysgu am y dechnoleg ddiweddaraf a chael hyfforddiant i ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol, bydd hefyd yn ffordd o gasglu cyfraniadau gan amrywiol gymunedau ar gyfer gwasanaethau newyddion radio a theledu Âé¶¹Éç Cymru, amrywiol raglenni a safleoedd gwe gan ddarlledu'n fyw a recordio cyfraniadau trwy'r stiwdio gymunedol.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý