Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bowlen o flawd a wyau Diwrnod crempog yn Nhalysarn
'Modryb Elin Enog, os gwelwch yn dda ga' i grempog?' Fydd dim rhaid i blant Talysarn ofyn o cwestiwn yma eto ar ôl dydd Mawrth Ynyd 2008 gan y byddan nhw wedi dysgu sut i wneud eu crempog eu hunain.
Mae disgyblion o Ysgol Talysarn ac Ysgol Baladeulyn wedi eu gwahodd i gaffi cymunedol Cegin yr Injan Fach yng Nghanolfan Talysarn i ddathlu a dysgu sut i wneud crempogau ar Chwefror 4 a 5 (Dydd Mawrth Ynyd) 2008.

Mae'r Gegin wedi bod yn gweithio gyda'r ysgolion fel rhan o brosiect Cross Cooking, cynllun traws-Ewropeaidd i gasglu ryseitiau traddodiadol mewn pum gwlad yn Ewrop, gan gynnwys Cymru.

Fel rhan o'r prosiect trefnodd Cegin yr Injan Fach sesiynau fis Mai diwethaf rhwng yr ysgolion a Chlwb Henoed yr ardal, Clwb Silyn, i fwynhau cinio a throsglwyddo gwybodaeth am sut roedd neiniau a theidiau'r plant yn bwyta, a bu criw Lleol draw yno i weld beth oedd yn digwydd.

Ond yn y ddwy sesiwn hon bydd y plant yn cael cyfle i weld sut i wneud crempogau, ac yn paratoi llenwadau sawrus a melys iddynt.

"Dros y pythefnos diwethaf dwi wedi bod yn Ysgol Talysarn ac Ysgol Baladeulyn, i drafod coginio gyda'r plant, a'u helpu i ddeall risetiau," meddai Ben Gregory, sy'n ymwneud â phrosiect y Gegin. "Bydd y plant yn dod i helpu paratoi'r bwyd, ond fel rhan o'u gwaith cartref, mae'r plant wedi mynd adre i ofyn i'w neiniau a'i teidiau, a'i mamau a'i tadau, beth allant gofio bwyta pan yn ifanc."

Fel rhan o'r diwrnod, bydd y plant yn cael ffedog sydd wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer y sesiynau.

  • Traddodiadau diwrnod crempog


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý