Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Melfyn Thomas Melfyn y cogydd
Lob sgows cangarŵ a charbonara selsig - dyma awgrymiadau'r cogydd Melfyn Thomas o Bwllheli.

Dwi wedi bod yn gogydd am flynyddoedd, ond diolch i'r Âé¶¹Éç dwi'n dangos bwyd Cymreig dros y byd yn llawn amser rŵan. Mi wnes i roi hysbys yn y papur fy mod wedi agor bwyty newydd ym Mhwllheli a gwelodd Hywel Gwynfryn hwnnw a dod acw i recordio deuddeg rysáit ar gyfer y radio.

Dwi ddim yn rhedeg y bwyty erbyn hyn gan fy mod yn gweithio ar y teledu ac wedi bod yn mynd rownd y byd yn hyrwyddo bwyd Cymreig. Es i Awstralia am chwe wythnos yn ddiweddar a choginio ar gyfer côr meibion Cymraeg Melbourne. Mi wnes i lob sgows gyda thwist Awstralaidd - defnyddio cig cangarŵ! Roedd o'n fendigedig, gyda bach o garlleg a chorshet hefyd! Nid oes rhaid defnyddio'r tatws a moron arferol wrth wneud o.

Os byddai'n gwneud lob sgows adref, mi fydda'i wastad yn defnyddio hanner cig oen a hanner cig eidion, hwnnw yw'r un gorau.

Fy hoff rysáit Cymreig yw cinio dydd Sul gyda chig oen. Y tip mwyaf yw peidio a gor-coginio cig. Mae rhai pobl - a fy ngwraig i yn un - ddim yn hoffi'r cig yn binc. Unwaith, mi wnes i roi cig bach yn binc ar ei phlant a'i guddio gyda grafi a dywedodd ei bod yn fendigedig - byse hi heb ei fwyta os fysai wedi gweld y cig!

Un o'r bwydydd dwi wedi dod i hoffi eleni yw tatws melys. Torrwch nhw yn eu hanner, gan adael y crwyn ymlaen, brwsio nhw gydag olew a'i gosod ar y barbiciw. Pan mae'r burgars neu'r selsig yn barod, mi fydd y tasan felys yn barod ac yn fendigedig hefyd.

Beth am drio carbonara selsig...


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý