Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Stephen a Kathryn Williams o gwmni Pysgod Llyn Pysgod LlÅ·n
Mae digon o fôr o amgylch Pen Llŷn i godi awydd am bysgod ar unrhyw un. Lle delfrydol i Stephen Williams o gwmni Pysgod Llŷn, Pwllheli, redeg ei fusnes bwyd môr gyda'i wraig, Kathryn.
"'Da ni'n gwerthu pysgod ffres ac mae gennym ni Delicatessen lle 'da ni'n gwerthu 'pates', ready meals - bob dim i'w wneud efo pysgod!

"Dydyn ni ddim yn cael lawer o bysgod lleol ond 'da ni'n cael lot o gimychiaid a chrancod o'r ardal.

"Mi fyddai yn gwneud paté fy hun. Mi fydda i'n dechrau gyda'r sail, sy'n cynnwys menyn, nionyn, garlleg a herbau ffres - mae'r rheiny'n dibynnu ar ba bysgodyn 'da chi am ei ddefnyddio. Mi fyddaf yn coginio hwnnw tan mae o wedi mynd yn feddal ofnadwy, yna adio'r pysgodyn - smoked salmon er enghraifft. Wedyn, dwi'n rhoi gwin gwyn a wisgi ar ei ben a'i 'simro' am ryw ugain munud i wneud yn siŵr fod y samwn wedi ei boethi trwodd yn iawn. Wedyn 'da ni'n ei finsio fo, ei botio a'i dopio efo menyn.

"Os brynwch chi ddarn neis o bysgodyn, fel darn o samon, brwsiwch o efo olew olewydd neu fenyn, halan a pupur ac ychydig o sudd lemon a'i roi yn y popty neu o dan y gril. Peidiwch a'i or-gwcio - dyna'r peth gwaethaf allwch chi ei wneud efo pysgodyn."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý