"Mae eglwys plwyf Caergybi wedi ei hadeiladu o fewn hen gaer Rufeinig - mae 'na olion waliau Rhufeinig o amgylch Mynydd T诺r."Mae'n bosib eu bod nhw wedi adeiladu'r gaer i warchod y mwynau copr yn Amlwch neu i edrych ar 么l y 'farro', sef yr hen oleudy wnaethon nhw ei ddarganfod ar ben y mynydd. Mi fydden nhw wedi ei ddefnyddio i helpu'r llongau i mewn i'r harbwr - ond efo t芒n, dim trydan, yr adeg honno wrth gwrs!
"Roedd gan Sant Cybi gell o fewn hen gaer y Rhufeiniaid yn 540OC. Offeiriad o Lydaw oedd o, wedi bod yn crwydro'r wlad cyn cyrraedd Caergybi.
"Roedd gan y Rhufeiniad hen gapel ar y mynydd, rhwng North Stack ac Ynys Lawd, sef Eglwys Llochwydd. Ddaru'r hen Frank Bell fynd 芒 mi draw yno flynyddoedd yn 么l, ond dim ond 'chydig o gerrig mawr oedd ar 么l. Roedd s么n fod delw aur o ferch heb freichiau wedi ei chladdu o dan yr allor, ond efallai mai dim ond chwedl ydy hynny.
"Roedd 'na hen draddodiad ar ddiwrnod Sant Cybi, sef 5 Tachwedd, bod pobl ifanc y plwyf yn gadael Eglwys Llochwydd ac yn dilyn llwybr i lawr y clogwyn at y m么r. Ar lan y m么r roedd 'na ffynnon, ac mi fyddent nhw'n cymryd llond cegaid o dd诺r a llond llaw o dywod ac yn mynd 芒 fo i fyny n么l i'w osod ar allor yr eglwys.
"Ond pan wnes i dr茂o dringo i lawr y clogwyn roedd yn rhaid i mi ddefnyddio rhaffau a ballu - roedd yn beryglus iawn felly dwi ddim yn si诺r sut ddaru nhw allu cyrraedd lan y m么r heb offer dringo."
Mae'r enw Turkey Shore, sef yr enw ar y ffordd sy'n arwain at y porthladd - L么n Traeth Dyfrgi yn Gymraeg, wedi creu dipyn o ddifyrrwch dros y blynyddoedd. Mae Ken Griffiths yn cofio'r esboniad a gafodd o am yr enw.
"Yn 1951 wrth gael cinio un diwrnod yn yr iard longau, mi ddaru un o'r hogiau ddweud: 'Dwi newydd weld llygoden fawr yn 'stafell injan y llong.'
"Mi ddywedodd rhywun arall: 'Da chi'n cofio'r llygoden fawr wnaethon ni ei lladd ar ffordd Turkey Shore? A mi welson ni wedyn mai dyfrgi oedd o!'
"Mae'n rhaid bod dyfrgwn yn byw ger y m么r yr adeg honno.
"A dyma hen foi arall yn dechrau s么n sut cafodd ffordd Turkey Shore ei enw. Yn y 19fed ganrif doedd hi ddim yn ffasiynol i siarad Cymraeg ymysg yr uchelwyr. Felly pan ddaru nhw ddechrau enwi'r strydoedd mi ddaru nhw alw'r ffordd yn Turkey Shore yn lle L么n Traeth Dyfrgi - sy'n swnio fel twrci i'r clust Saesnig.
"Alla'i ddim ddychmygu twrci yn rhedeg lawr y ffordd yng Nghaergybi chwaith!"
Ymlaen i atgofion am yr iard longau