麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerdded
Llwybr Treftadaeth Llandrillo yn Rhos 19 - 22
19. Sylwch ar YR HEN CHWAREL (19) ar y chwith i chi ar waelod y bryn. Dechreuodd hon yn y 1840au, ac roedd yma reilffordd a wagenni'n cael eu tynnu gan geffylau i gludo'r cerrig i lanfa fach yn Llandrillo yn Rhos, gan fynd i lawr Ffordd Rhos sydd yn union o'ch blaen chi. Trowch i'r chwith ar ddiwedd y trac.

20. Ewch yn eich blaen ar hyd Ffordd Tan-y-Bryn nes i chi gyrraedd TAFARN Y LLONG (20) ar y dde i chi. Codwyd yr adeilad deniadol hwn gyferbyn 芒'r eglwys gan Whitehall Dodd. Codwyd tafarn wreiddiol Y Llong ym 1736 ac roedd ar yr ochr arall i'r ffordd nes iddo ei dymchwel a'i symud i'w safle presennol ym 1874.

21. Trowch i'r chwith i Ffordd Llandudno, croeswch y ffordd ac ewch i mewn i fynwent EGLWYS PLWY LLANDRILLO (21) trwy'r g芒t hynod sy'n dyddio o'r 17eg ganrif. Bu eglwys ar y safle hwn ers y 13eg ganrif o leiaf, pan roes y Pab drwydded i Ednyfed Fychan (gweler Llys Euryn) godi capel preifat yma, fel y "gellid canu offerennau dros ei enaid ar 么l ei farw hyd byth." Erys rhai olion o'r capel gwreiddiol o'r 13eg ganrif o hyd yn yr adeilad presennol, y mae'r rhan helaethaf ohono'n dyddio o ddechrau'r 16eg ganrif. Mae'r bedyddfaen yn hynafol iawn hefyd - o bosib o oes y Normaniaid. Bu'r eglwys yn ganolbwynt i blwy anferth ar un adeg ond heddiw mae'n gwasanaethu Llandrillo yn Rhos yn unig. Cafodd yr eglwys ei gwyngalchu i fod yn dirnod i forwyr allan ar y m么r. Mae'r t诺r yn ddiddorol tu hwnt. Fel y gwelwch chi mae ei si芒p yn anarferol (nid oes ond un arall tebyg iddo yng Nghymru.) Cafodd ei ailgodi ym 1552 ac mae ohono olygfeydd helaeth o F么n i'r gorllewin hyd at y Parlwr Du i'r dwyrain. Sylwch ar y twr bach sgw芒r yn y gornel yn y pen de orllewinol. Yn lleol adwaenir hwn fel "cadair y rheithor." Roedd yn fan gwylio ac arwyddo. Anodd heddiw yw dychmygu bod ymosodiadau gan f么r-ladron yn broblem ddifrifol ar y rhan hon o'r arfordir yn y 17eg ganrif (yn enwedig m么r-herwyr o Ogledd Affrica!) Roedd t诺r yr eglwys yn rhan o gadwyn o dyrau arwyddo a godwyd ar hyd yr arfordir hwn i rybuddio am ymosodiadau m么r-ladron.

Mae nifer o feddau diddorol yn y fynwent. Y mwyaf enwog efallai yw bedd HAROLD LOWE - y swyddog arwrol ar y Titanic 芒 gofal am yr unig fad achub a ddychwelodd i geisio achub pobl oedd yn boddi. (I ddarganfod ei garreg fedd trowch i'r dde wrth fynd allan o g芒t ddeniadol y fynwent sy'n dyddio o'r 17eg ganrif ac ewch yn 么l i mewn i'r fynwent trwy'r g芒t nesaf, trowch i'r chwith a cherddwch am ryw bum llath ar hugain. Mae ei fedd ar y dde, ger y llwybr.)

22. Trowch i'r chwith wrth fynd allan o'r fynwent a cherddwch yn 么l ar hyd Ffordd Llandudno. Ar y chwith i chi saif y FICERDY mawr (22) ger yr eglwys. Dyma'r trydydd ar y safle hwn. Bu i brotestwyr fygwth ffrwydro'r ficerdy blaenorol yn ystod "rhyfel y degwm" am fod y ficer yn gwrthod gostwng y degwm. Gwelsom ei gofgolofn yn gynharach ar y daith gerdded ar lan y m么r. Yn ddiddorol ddigon darganfuwyd ffynnon fawr wedi ei leinio 芒 cherrig (63 o droedfeddi o ddyfnder) yn union y tu 么l i'r ficerdy pan godwyd y tai newydd ym 1964, ond nid oes dim yn hysbys am ei hanes.

Ewch yn eich blaen ar hyd Ffordd Llandudno. Ar eich chwith sylwch ar STAD DAI. Codwyd hon rhwng 1952 a 1956 ac fe'i dyluniwyd gan Colwyn Foulkes. Mae'n adnabyddus am ei "byrth ysgafn galon" a'r cerfluniau o gymeriadau o Alice in Wonderland.

Trowch i'r chwith i mewn i Ffordd Rhos a cherddwch yn 么l i gyfeiriad y m么r. Dyma un o'r ffyrdd hynaf yn Llandrillo yn Rhos. Mae wedi ei marcio'n glir fel l么n ar fap o 1763. Mae'n debyg y bu hen gei a harbwr bach wrth ei phen ar un adeg ac fe agorwyd y ffordd hon er mwyn ei gysylltu 芒 Llys Euryn.

  • Ymlaen 芒'r daith ...


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy