麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cajuns Denbo yn y Sesiwn Fawr Dolgellau Cerddoriaeth Cajun
Mae Cajuns Denbo yn un o brif fandiau Cajun Cymru, ond beth yn union ydy tarddiad y gerddoriaeth yma? Owen a Neil o'r band sy'n rhoi blas ar fiwsig Cajun.
Beth ydy gwreiddiau cerddoriaeth Cajun?
Owen: Mae gwreiddiau Cajun yn mynd yn 么l tua 400 mlynedd pan wnaeth pobl o ardal Celtaidd Ffrainc ddianc i'r ardal yng Nghanada sy'n cael ei alw yn Nova Scotia erbyn hyn. Ar 么l byw yno am ryw 150 o flynyddoedd, fe aeth yn rhyfel rhwng Ffrainc a Lloegr gyda'r Saeson eisiau i bobl yr ardal arwyddo cytundeb yn dweud nad oeddent am gefnogi Ffrainc. Ond mi wnaethon nhw wrthod cymryd ochr yn y rhyfel, ac o achos hynny, mi gawsant eu taflu allan ac mi aeth lot ohonyn ymgartrefu yn Louisiana gan fod 'na gysylltiadau efo Ffrainc yno, er bod lot wedi marw ar y ffordd.

Felly dros 200 mlynedd yn 么l, mi wnaethon nhw ddechrau eu diwylliant eu hunain, ac mae lot yn yr ardal yna o America yn siarad Ffrangeg Cajun, sydd yn wahanol i'r Ffrangeg roeddent yn ei siarad yn wreiddiol.

Mae ganddynt ei diwylliant eu hunain, eu hiaith eu hunain a'u bwyd eu hunain.

Yn wreiddiol, cerddoriaeth ffidil i ddawnsio iddo oedd Cajun. Mi fydden nhw'n chwarae yn eu tai gyda'r nos gyda chymdogion - cerddoriaeth werin oedd o.

Yna tua 100 mlynedd yn 么l daeth yr acordion drosodd o'r Almaen, ac mae pethau eraill wedi cael eu adio dros y blynyddoedd, fel y git芒r. Mae'r gerddoriaeth offerynnol wedi troi yn ganeuon wrth i bobl roi geiriau iddynt.

Ers y 50au, pan ddaeth roc a r么l, maen nhw wedi adio drymiau a git芒r f芒s. Mae na spread mawr r诺an o'r traddodiadol gyda'r git芒r, yr acordion a'r ffidil i fandiau mawr sy'n defnyddio lot o elfennau roc, ond cerddoriaeth i ddawnsio iddo ydy o yn y b么n.

Sut ddaru chi ddod i wybod am gerddoriaeth Cajun?
Owen: Ddes i ar ei draws tua 20 mlynedd yn 么l. Es i draw i Louisiana yn 1986 a mynd rownd llefydd fel Lafayette, a dyna lle gafodd o afael arna'i go iawn, wrth i mi ei glywed yn cael ei chwarae'n fyw yn y bars.

Roedden ni i gyd yn chwarae mewn band efo'n gilydd, yn chwarae stwff bl诺s ac R'n'B ac wedyn, yn enwedig ar 么l i Neil ymuno 芒'r band, ddaru ni gychwyn defnyddio mwy o'r acordion a dros y blynyddoedd mae o wedi mynd yn fwy Cajun.

Yn 1990 ddaru ni neud y gig Cajun cynta go iawn, ac wedyn ddaru ni ddechrau chwarae stwff yn Gymraeg. 'Da ni heb chwarae Cajun Cymraeg yn Lousiana eto, ond dyna beth faswn i'n hoffi ei wneud.

Sut mae'r s卯n Cajun yng Nghymru?
Owen: Tua deng mlynedd yn 么l roedd y s卯n yn reit fawr ym Mhrydain, gyda phobl fel Andy Kershaw yn chwarae lot ohono. Roedd 'na foi o'r enw Chris Hall o ochrau Derby yn trefnu gigs a lot o wyliau ond mae o wedi distewi ychydig r诺an.

Mae lot o'r gigs 'da ni'n eu gwneud mewn gwyliau fel y Sesiwn Fawr, partis pen-blwydd a phriodasau - pethau lle mae pobl eisiau band er mwyn dawnsio a chael amser da.

Mae 'na un neu ddau o fandiau Cajun eraill yn ne Cymru, ond yn Ffrangeg maen nhw'n canu - dwi ddim yn meddwl fod na neb arall yn chwarae Cajun yn y Gymraeg.

Ydy'r acordion yn elfen bwysig i'r s诺n?
Neil: Pan ymunais efo'r band, roeddwn i'n chwarae'r acordion piano ond mae 'na s诺n lot gwell efo un traddodiadol Cajun efo dim ond un rhes o fotymau yng nghyfeirnod 'C' - nodau gwyn y piano. Felly mae'r rhan fwyaf o gerddoriaeth Cajun yn 'C' neu 'G', ac wrth chwarae yn 'G' mae 'na flat seventh, dipyn o s诺n bl诺s sy'n rhan o'r s诺n Cajun.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy