麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Last Choir Standing
Joe Devine

Dyma Cefin a Rhian Roberts, sefydlwyr Ysgol Glanaethwy, i s么n am sut brofiad yw bod yn rhan o raglen nos Sadwrn y 麻豆社.

Mae perfformio'n fyw ar y teledu yn her newydd! Dwi'n eithaf nerfus wrth arwain ar unrhyw amser gan mai drama yw fy mhwnc i. Dwi yn mwynhau sefyll o flaen c么r a cheisio creu s诺n da, ond mi fydd arwain yn fyw ar y teledu yn frawychus!

Mae'r c么r yn cystadlu mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys Choir of the Year, y G诺yl Ban Geltaidd yn Iwerddon a'r Music Youth yn Birmingham ac felly wedi hen arfer efo perfformio y tu allan i Gymru. Ond mae Last Choir Standing yn sialens wahanol i ni.

Un o gryfderau c么r Glanaethwy yw ein bod yn gallu perfformio amrywiaeth eithaf eang o steiliau, ond mae'r gystadleuaeth yma fel tasa hi'n mynd at yr ochr ysgafnach mwy a mwy, felly rhaid addasu ein steil ac arddull. Mae dysgu'r caneuon newydd a'r coreograffi mewn cyn lleiad o amser yn her hefyd. Mae'r bobl ifanc yn ddigon hyblyg ond rhaid dysgu pedwar c芒n a'r symudiadau pob wythnos. Mi fydd llawer o'r aelodau yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dwi'n arwain y Theatr Ieuenctid - mae'r syniad o baratoi at raglen fyw hefyd braidd yn mind-blowing!

Ond er dweud hynny, mae cyrraedd y chwech olaf yn wych a sicr yn ychwanegu at brofiadau'r pobl ifanc. Pryd bynnag cawn ein cnocio allan, alla'i fynd adref yn falch ein bod wedi cael llwyddiant beth bynnag, yn enwedig fel y c么r ieuengaf yn y cystadleuaeth. Cefin Roberts, arweinydd c么r Ysgol Glanaethwy

Mi wnes i glywed am y gystadleuaeth gan ffrind, anfon fideo o'r c么r i'r 麻豆社 ac yna mi gawsom ein gwahodd i gystadlu yn erbyn y chwedeg olaf. Roedd yna wedyn pum c么r yn ein herbyn yn y rhagras ac mi gawsom ein dewis fel un o'r goreuon gan y beirniaid.

O hyn ymlaen, mi fydd y cyhoedd yn pleidleisio pob nos Sadwrn yn Awst nes iddynt gael enillydd. Dwi ddim yn hollol si诺r beth yw'r wobr os enillwn, ond mae'r sylw y cawn yn sg卯l y pum miliwn o gynulleidfa sy'n gwylio yn ffantastig, ac mae'n brofiad gwych i'r bobl ifanc.

Er hynny, mae o'n gomitment mawr mynd lawr i Lundain cymaint. Roedd rhai o'r c么r yng nghanol eu TGAU a Lefel A yn ystod y rhagbrofion ac mi fydd yn rhaid clymu eu hunain i'r prosiect trwy gydol yr haf. Er, mae'n dibynnu pa mor bell yr awn ni wrth gwrs. Mi gaf y cysur o wyliau os na fyddwn yn ennill.

Rydym wedi gorfod newid lot ar ein repertoire arferol ar gyfer y rhaglen - rhaid perfformio caneuon fydd yn apelio at wylwyr teledu ar nos Sadwrn sy'n dod o ledled Prydain. Roedd yn rhaid i ni newid nifer o ganeuon Cymraeg oherwydd y gynulleidfa eang, ond rydym yn gobeithio perfformio mwy yn ein hiaith wrth i'r gystadleuaeth mynd ymlaen.

Mi fydd yn brofiad ofnus iawn gwylio'r c么r, a Cefin yn arwain, yn fyw ar y teledu! Maen nhw wedi recordio'r rhaglenni hyd yn hyn ymlaen llaw, felly mae'n bosib y bydd pawb yn swp s芒l cyn bob perfformiad o hyn ymlaen!

Mae wedi bod yn waith caled trefnu popeth - y gwestai, y bysiau, a gwisgoedd pawb. I gychwyn, roedd pawb yn gwisgo dillad eu hunain ond r诺an rydym wedi penderfynu gwisgo gwasgod a chrys mewn lliw melyn - mi fydd gan bob c么r liw i'w wneud yn haws i'r gwylwyr adnabod pwy yw pwy.

Mi nesh i a Cefin gychwyn Ysgol Glanaethwy 18 mlynedd yn 么l gan ein bod yn gweld diffyg cyfle i bobl ifanc Gwynedd gael canu ac actio. Nid oedd dim o'r fath ar gael adeg yna, yn enwedig yn y Gymraeg. Mae sawl ysgol o'r fath ar gael ar y stepan drws mewn dinasoedd fel Llundain a Manceinion ,ac maen nhw'n synnu pa mor bell y mae pobl ifanc yn teithio i ddod atom. Mae rhai yn gyrru am ddwy awr am wers, ac yna'r holl ffordd yn 么l.

Rydym yn cynnal gwersi ar 么l oriau ysgol, ond hefyd mae plant o ysgolion lleol yn dod draw am wersi drama a dawns TGAU a Lefel A.

Ddaru ni sefydlu cyn rhaglenni fel yr X-Factor a Pop Idol; roedd y gofyn am rywle i berfformio yna trwy'r amser. Efallai ein bod ni wedi cydio yn y syniad cyn y cynhyrchwyr teledu, a dyma ni r诺an ar y fath raglen!

Mae sawl un wedi mynd ymlaen i weithio fel perfformwyr yn Llundain neu ar S4C ond naws yr ysgol yw rhoi hyder a datblygu sgiliau cymdeithasol. Nid oes rhaid cael clyweliad cyn ymuno a ni ac mae 90% yma i fwynhau, heb fynd ymlaen i berfformio'n broffesiynol.

Mae ymateb y cyhoedd hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn - mae'n wych eu bod yn mynd i'r drafferth o sgwennu pethau mor neis ar wefan y sioe. Mi fydd safon y corau yn ein herbyn o hyn ymlaen yn uchel iawn, felly gawn ni weld sut y gwnawn ni. Rhian Roberts, is-arweinydd c么r Ysgol Glaenaethwy

Ysgol Glanaethwy, Parc Menai, Bangor, ff么n 01248 671036.

Cyfrannwch

Roy, Bethesda
Yn fy 'nghalon I chi oedd yr enillwyr. Da Da iawn PAWB.

Rhian Evans, Bethesda
Da chi'n neud yn arbennig o dda, ac er 'mod i yn biased - dwi'n sicr mai Glanaethwy dylai ennill y gystadleuaeth :-)

Hefina Clasper o essex( hen ffrind)
Cefais sioc fawr pan wnes i roi y teledu'n 'mlaen a gweld Cefin yn arwain y cor.Chi' di'r gorau yn fy marn i ond dwi'n biased.POB LWC A CHARIAD MAWR..xx


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy