Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mojo Pen-blwydd hapus Mojo
Ers ffurfio yn yr 1980au, mae'r band chwe-aelod o Fôn, Mojo, wedi para yn hirach na llawer o fandiau eraill oedd yn cyd-oesi â nhw ac yn dathlu eu pen-blwydd yn 20 oed yn 2006. Tudur Morgan sy'n edrych nôl:
"Harmoni tri llais Bedwyr, Simon a minnau yw un o'r nodweddion a wnaeth Mojo'n wahanol i'r rhelyw o grwpiau roc Cymraeg a bu'r 20 mlynedd diwethaf yn rhai o harmoni llwyr i'r grŵp.

"'Dim ond awr tan y garej 24 awr', meddai llais o gefn y bws bach; yr un oedd y gri wedyn bob chwarter awr.
"'Ydi honno'n agored drwy'r nos?' meddai un o'r rodis yn ddifrifol - ac yna chwerthin afieithus am chwarter awr arall - felly bu unrhyw siwrnai bws.

"Mae'r Neges yn Glir oedd y caset 4 cân cyntaf a gyhoeddwyd yn annibynnol gan y grŵp ac fe'i darlledwyd gyntaf yn ecscliwsif ar Radio Cymru. Bu pob siwrnai'n llawn hwyl ac yn ddi-gyffur - neges glir arall i bobl ifanc!

"Ar ôl cyhoeddi'r albym gyntaf yn ystod haf 1988 - yr LP (record) olaf yn Gymraeg - prysurodd y grŵp yn arw a llwyddwyd i agor pob sioe ar daith Jim O'Rourke, Y Bont, yn gynharach yn y flwyddyn.

"Roeddan ni isio dod â 'chydig o sglein i'r byd pop ac mi 'roedd hynny'n golygu llawer o waith caled wrth ymarfer harmoni lleisiol ac offerynnau amrywiol y grŵp.

"Llwyddwyd i ddenu un o brif chwaraewyr sacsoffon Iwerddon, Keith Donald o'r grŵp arloesol Moving Hearts i chwarae ar bob un o'r albyms."

"'Pan fydd o o gwmpas 'rydym ninnau isio chwarae ar ein gorau hefyd,' meddai Bedwyr, y prif leisydd a'r gitarydd blaen a ffurfiodd Mojo efo'i ffrind ysgol, y drymiwr Peter Elias Jones yn Llangefni, tref enedigol Bedwyr, Simon a minnau, a'r dref fu'n ganolfan i'r hogia o'r dechrau.

"Yn 1990 cyhoeddwyd y CD cynta yn y Gymraeg, Awn Ymlaen Fel Hyn - llond albym arall o stwff masnachol yn trafod perthynas bersonol yn ogystal â phynciau'r dydd a chynefin a chymuned y bechgyn.

"Y 90au oedd cyfnod prysuraf y grŵp pan oedd llwythi o raglenni teledu a neuaddau led led Cymru'n llawn o ieuenctid oedd yn barod i wrando a dawnsio - elwodd pob grŵp yn y cyfnod cynhyrfus hwn ddechrau'r 90'au.

"Tra'r oedd llawer o grwpiau'n rhoi'r gorau i rocio parhau wnaeth brawdgarwch a chyfeillgarwch Mojo a esgorodd ar albym arall, Tra Môr ..., yn 1996 oedd yn llawn eto o ganeuon bachog ymhob ystyr, Rhy Hwyr yn eu plith.

"Ond dydi hi byth yn rhy hwyr i Mojo - cyhoeddwyd CD 'Americaneg' ei hiaith yn 2001 a glodforwyd gan y wasg Saesneg fel un o CD's canu gwlad roc gorau a mwyaf gwreiddiol Gwledydd Prydain. Dywedodd Randy Owen, prif leisydd y grwp Alabama, sydd o dras Cymreig, ei fod wrth ei fodd efo'r CD.

"Mae 2006 yn golygu parti trwy'r flwyddyn i Mojo gan gynnwys cyngerdd dathlu arbennig, rhannu llwyfan efo prif enwau mawr y fam-ynys ar faes Sioe Môn ar Fai 6, canu yng ngŵyl canu gwlad rhyngwladol Iona ac Andy efo'r Bellamy Brothers ar Awst 4 a gweithio ar ein CD cyntaf ers 10 mlynedd a chyhoeddi'r casgliad cyn y Nadolig."

Disgograffi Mojo:
Mae'r Neges Yn Glir (caset) 1986 (Mona)
Rhydd Rhyw Ddydd (LP/ caset) 1988 (Sain)
Awn Ymlaen Fel Hyn (CD/caset) 1990 (Sain)
Tra Môr... (CD/caset) 1996 (Sain)
Highway to Your Heart (CD) 2001 (Sain)
Mojo ym Mryn Meirion (CD) 2005 (Mona)

Aelodau:
Bedwyr Morgan - prif lais/gitâr flaen/cynhyrchydd
Simon Barton - offer taro/llais
Peter Elias Jones - drymiau
Ken Jones - allweddellau/gitâr
Tudur Morgan - bâs/gitâr/llais/cynhyrchydd
John Williams - piano, organ, synth
gyda
Keith Donald - sacs
Dave Rowland - gitâr ddur.


Cyfrannwch

Joanna Thomas o Gaerfyrddin
Angen bach o help i gael gafael ar y CD MOJO - a allwch chi helpu?!! Diolch Joanna

MOJO,RHYWLE YN LLANGEFNI
"ardal" gan mojo - y cd newydd ar gael 3/11/06. 10 cân newydd sbon - 10 mlynedd ers y cd ola', 20 mlynedd ers sefydlu'r band


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý