Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mr Meirion Jones a Mr Hefin G Jones a'u gwobrau Gwobrwyo gwasanaeth hir i'r seindorf
Yn ystod cyngerdd blynyddol Seindorf Deiniolen fis Ebrill 2004, cafwyd gwobrwyo go arbennig.
Mae hi bellach dros 30 mlynedd ers i Mr. Meirion Jones a Mr. Hefin G. Jones gychwyn ar eu swyddi fel Ysgrifennydd a Thrysorydd. Teimlad pawb sy'n gysylltiedig â'r band oedd y dylai'r ddau dderbyn rhodd fel arwydd o'u gwasanaeth gwerthfawr dros y blynyddoedd.

Gwnaed casgliad, ac fe brynwyd oriawr boced i'r ddau ohonynt, gyda'r negeseuon canlynol wedi'u torri ar gefn yr oriawr:

  • Cyflwynwyd i Hefin G. Jones, Ebrill 2004, fel arwydd o ddiolch a chydnabyddiaeth am dros 30 mlynedd o wasanaeth di-dor fel Trysorydd Band Deiniolen.
  • Cyflwynwyd i Meirion Jones, Ebrill 2004, fel arwydd o ddiolch a chydnabyddiaeth am dros 30 mlynedd o wasanaeth di-dor fel Ysgrifennydd Band Deiniolen.

    Gofynnwyd hefyd i'r Prifardd David John Prichard gyfansoddi englyn ar gyfer yr achlysur:

    Rhoi'r ardal ar bob dalen a wnaethant
    I'r eithaf yn llawen;
    Dau yn hael i'w Deiniolen
    O wneud eu gwaith gyda gwên.
    Y Prifardd David John Pritchard

    Cafwyd noson fyth-gofiadwy y nos Sadwrn ganlynol, 24 Ebrill 2004, yng Ngwesty'r Anglesey Arms, Porthaethwy, i dalu teyrnged i Meirion a Hefin. Cafwyd amser difyr iawn yn edrych yn ôl ar hanes y Band, ynghyd a llawer o dynnu coes! Cewch weld lluniau'r noson ar y wefan. (dolen ar y dde).

    Hoffai pwyllgor a band Deiniolen ddiolch o galon i Meirion a Hefin am eu holl waith dros y blynyddoedd.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Radio Cymru
    Digwyddiadau
    Adolygiadau


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý